Swat
| Math | district of Pakistan, hen wareiddiad |
|---|---|
| Prifddinas | Saidu Sharif |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 5,337 km² |
| Yn ffinio gyda | Buner District |
| Cyfesurynnau | 34.7828°N 72.3619°E, 35.24°N 72.5°E |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | District Council of Swat |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chairman of District Council Swat |
![]() | |

Dyffryn a dosbarth gweinyddol yw Swat a leolir yn Khyber Pakhtunkhwa (NFWP gynt), Pacistan, i'r dwyrain o'r Hindu Kush ac i'r de o'r Karakoram. Gorwedd gwaelod y dyffryn tua 60 km/100 milltir i'r gogledd-orllewin o Islamabad, prifddinas Pacistan. Tref Saidu Sharif yw'r ganolfan weinyddol, prifddinas y dosbarth, ond Mingora yw'r dref fwyaf. Roedd Swat yn dywysogaeth yn NWFP hyd 1969. Pashto yw prif iaith y mwyafrif o'r boblogaeth o 1,257,602.
Mae Swat yn rhan o ranbarth hanesyddol Malakand. Mae'n ardal o fynyddoedd uchel, gweirgloddiau gwyrdd, coedwigoedd a llynnoedd gydag Afon Swat yn rhedeg trwyddi; mewn canlyniad bu'n gyrchfan boblogaidd gan dwristiaid, o Bacistan a thramor, tan yn ddiweddar. Ond yn Rhagfyr 2008 cipwyd rhan helaeth Swat gan wrthryfelwyr y Taliban ym Mhacistan. Mae llawer o'r ardal yn cael ei rheoli y gwrthryfelwr Islamig Maulana Fazlullah a'i grŵp y Tehreek-e-Nafaz-e-Shariat-e-Mohammadi, sydd wedi cymryd camrau llym i gyflwyno cyfraith Sharia. Cafwyd cadoediad tri mis ar ddechrau 2009. Ar ddiwedd mis Ebrill 2009, ar ôl dod dan bwysau gan yr Unol Daleithiau, anfonodd llywodraeth Pacistan y fyddin i ymladd y Taliban yn Swat.
Dwyshaodd yr ymladd ar ddechrau mis Mai 2009. Adroddwyd fod miloedd o bobl yn ceisio ffoi o'r dyffryn wrth i Fyddin Pacistan ymosod o'r awyr ac ar dir ar rai o gadarnleoedd y Taliban. Ofnwyd bod "rhyfel agored" ar fin torri allan ac y byddai rhai cannoedd o filoedd yn gorfod ffoi.[1] Mae'r ymladd agored yma rhwng y fyddin a'r Taliban, yn Swat a rhannau eraill o'r NWFP, yn fygythiad pellach i sefydlogrwydd Pacistan.
Cyfeiriadau
- ↑ ""Pakistan hits Taliban amid Swat valley exodus" PakistanNews.net". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-18. Cyrchwyd 2009-05-07.
Gweler hefyd
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.
