Tanger
| Math | dinas, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 1,275,428 |
| Sefydlwyd |
|
| Pennaeth llywodraeth | Mounir Laymouri |
| Gefeilldref/i | Bizerte, Faro, Algeciras, Cádiz, Liège, Casablanca, Metz, Moulins, Pasadena, Mumbai, Beaugency, Saint-Denis, Aartselaar, Saint-Josse-ten-Noode |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 199.5 km² |
| Uwch y môr | 56 metr |
| Cyfesurynnau | 35.76963°N 5.803352°W |
| Cod post | 90000, 90010, 90020, 90030, 90040, 90050, 90060, 90070, 90080, 90090, 90100 |
| MA-TNG | |
| Pennaeth y Llywodraeth | Mounir Laymouri |
![]() | |

Dinas yng ngogledd Moroco yw Tanger (Arabeg a Berber: Ṭanja طنجة, Ffrangeg: Tanger, Sbaeneg: Tánger, Portiwgaleg: Tânger, Saesneg: Tangier neu Tangiers). Mae ganddi boblogaeth o tua 700,000 (cyfrifiad 2008). Mae'n gorwedd ar arfordir Gogledd Affrica wrth y fynedfa orllewinol i Gulfor Gibraltar lle mae'r Cefnfor Iwerydd yn cwrdd â Môr y Canoldir ger Penrhyn Spartel. Mae'n brifddinas rhanbarth Tanger-Tétouan.
Mae gan Tanger hanes cyfoethog sy'n ymestyn yn ôl i'r 5g CC pan gafodd ei sefydlu fel un o drefi'r Ffeniciaid o ddinas Carthago. Dros y canrifoedd bu'n gartref i sawl gwareiddiad ac yn noddfa i bobl o sawl gwlad. Yn 1923 rhoddwyd statws rhyngwladol i Tanger gan y pwerau trefedigaethol, ac felly daeth yn gyrchfa i bobl o sawl gwlad a diwylliant ac yn ganolfan masnach fawr. Yn y 1940au a'r 1950au roedd gan Tanger enw fel canolfan bywyd bohemaidd, moethus ond amheus; daeth sawl llenor ac artist yno ond roedd yn enwog hefyd am ddenu miliwnwyr, troseddwyr rhyngwladol a gamblwyr.
Mae'r ddinas yn newid yn gyflym heddiw. Mae prosiectau datblygu yn cynnwys gwestai moethus ar hyd y bae bay, canolbarth busnes, a maes awyr newydd. Yn ogystal, gobeithir y bydd economi Tanger yn adfywio diolch i adeiladu porthladd newydd Tanger-med.
Gweler hefyd
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.
