Tewdrig

Tewdrig
Tewdrig ar ffenestr liw yn eglwys gadeiriol Llandaf
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
Teyrnas Glywysing, Cymru Edit this on Wikidata
Bu farwUnknown Edit this on Wikidata
Matharn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl3 Ionawr Edit this on Wikidata
PlantMeurig ap Tewdrig Edit this on Wikidata
PerthnasauTeithfallt ap Nynniaw Edit this on Wikidata

Brenin Gwent a Glywysing yn ne Cymru a sant a ferthyrwyd yn ymladd y Sacsoniaid oedd Tewdrig neu Tewdrig ap Llywarch (Lladin: Theodoricius / Theodoric) (tua 580 - 630).[1]

Marwolaeth Tewdrig, darlun o gerflun gan y cerflunydd Cymreig J. Evan Thomas (1852).

Bywgraffiad

Yn ôl hanesyn a geir yn Llyfr Llandaf (12g), roedd Tewdrig yn fab i naill ai Lywarch neu Teithfall o Went, a roddodd lawer o dir i glas Llandaf. Ymddeolodd fel brenin er mwyn mynd yn feudwy yn Nhyndyrn ac fe'i holynwyd gan ei fab, Meurig, tad Athrwys ap Meurig.[2]

Ond pan groesodd y Sacsoniaid Afon Hafren dan arweiniad Ceolwulf tua'r flwyddyn, gan anrheithio nifer o glasau ac eglwysi, daeth Tewdrig allan o'i ymddeoliad i gynorthwyo ei fab ac amddiffyn yr eglwys yn erbyn y "paganiaid" Seisnig. Gorchfygodd Tewdrig a Meurig y Sacsoniaid ym mrydr Pont y Saeson, ger Tyndyrn, ond clwyfwyd Tewdrig yn angheuol. Cafodd ei gludo ar gert ych i'r clas ar Ynys Echni, ym Môr Hafren, ond ar y ffordd arhosodd yr ychen wrth ffynnon wyrthiol a enwir yn Ffynnon Tewdrig hyd heddiw. Yno cafodd ei glwyfau eu golchi a bu farw mewn hedd. Yng nghalendr yr Eglwys coffheir ei farw ar 3 Ionawr.[2]

Cof

Cododd y brenin Meurig eglwys yn y man a chladdodd ei dad yno a rhoi'r tir o'i amgylch i Esgobion Llandaf. Galwyd y llecyn yn Merthyr Tewdrig (pentref Matharn ar lan afon Gwy heddiw). Ond mae rhai haneswyr yn meddwl mai ger Caerfaddon yr ymladdwyd y frwydr ac i Dewdrig gael ei gladdu ar ei ffordd adref.[2]

Darganfuwyd esgyrn honedig Sant Tewdrig ger yr allor yn Eglwys Merthyr Tewdrig gan Francis Godwin, Esgob Llandaf 1601-1617. Roedd clwyf mawr yn y benglog.[2]

Cyfeiriadau

  1. T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2001).
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Wendy Davies, The Llandaff Charters (Aberystwyth, 1979).

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.