Tuedd

Ystyr y term tueddu at rywbeth, yw closio neu ffafrio, gogwyddo neu symud tua rhyw gyfeiriad arbennig. Rhoi mwy o bwysau neu sylw i un ddadl na'r llall, felly yw tuedd, neu bias: ochri gydag un math o grefydd, un set o bobl, rhywedd, meddylfryd wleidyddol ayb. Ond mae'r gair 'tuedd' yn llawer hŷn na hyn, ac i'w gael yng Ngwaith Dafydd Benfras yn y 13g, pan oedd y gair yn cyfeirio at ardal, ffin, cyffiniau neu gyfeiriad.[1] Yr hyn sy'n gyffredin rhwng y ddau ystyr, yw'r syniad o 'ochr'. Yn yr Alban, ceir Afon Tuedd, ac fe'i lleolir ar y ffin rhwng yr Alban a Lloegr, man a elwir yn The Borders, yn Saesneg.
Yr hyn sy'n groes i duedd yw di-duedd, niwtraliaeth neu feddwl agored. Yn fras, cyfeiria'r erthygl hon at ddwy agwedd o'r gair: y fathemateg a'r ochr wleidyddol.
Mewn mathemateg
Mewn mathemateg, ac yn benodol, o fewn ystadegaeth, mae tuedd yn faes a astudir, ac a ddiffinir fel y "canlyniad sy'n wahanol i'r amcangyfrif a ddisgwylir".
- Prif: Tuedd (mathemateg)
Mewn geiriau eraill, mae ystadegyn yn 'dueddol os gaiff ei gyfrifo i fod yn eithaf gwahanol i baramedrau poblogaeth (neu'r paramedrau ystadegol) a gyfrifwyd. [Nodyn: 'paramedr ystadegol' yw maint, sy'n indecs o ddosbarthiad tebygolrwydd. Caiff ei ystyried fel rhif y boblogaeth (ystadegol) neu fodel ystadegol]. Dyma rai mathau:
- tuedd wrth ddethol, a elwir hefyd yn "duedd Berksonian". Yma, mae rhai unigolion yn fwy tebygol o gael eu dewis i fod yn rhan o'r sampl, nag eraill.
- tuedd yr amcangyfrifydd
- mewn prawf rhagdybiaeth, dywedir fod yr arbrawf yn ddi-duedd dan rai amgylchiadau
- tuedd wrth ganfod. Er enghraifft, efallai fod meddygon yn fwy parod i chwilio am glefyd y siwgr mewn cleifion sy'n dioddef o dewdra, na chleifion tenau.
- tuedd wrth ddadansoddi'r ystadegau
- asesiadau addysgol: profion o fewn y byd addysg, lle ceir tuedd wrth osod y prawf, neu wrth farcio'r prawf.
- tuedd wrth ariannu, sy'n digwydd yn aml, wrth i'r asiantaeth sydd wedi'i dethol i weinyddu'r profion geisio plesio'r corff sy'n eu cyflogi, ac felly maen nhw'n euog o droi'r dŵr i'w melin eu hunain.
- tuedd wrth gyhoeddi'r canlyniadau; mae hyn yn digwydd pan fo'r cyhoeddiad terfynol yn cael ei gadw oddi wrth rhan o'r boblogaeth, drwy ei gyhoeddi'n fewnol, neu mewn rhai cyfryngau'n unig.[2][3][4]
Tuedd gwleidyddol
Ceir hefyd duedd gwleidyddol, a ystyrir yn beth annheg, lle rhoddir mwy o bwysau ar un ochr y ddadl na'r llall, un blaid yn fwy na'r lleill. Ystyrir fod sylwebaeth y BBC ar faterion sy'n ymwneud â Chymru yn ochri fwy gyda'r status quo yn Lloegr, gan rai, er enghraifft y modd y maen nhw'n rhoi sylw i deulu brenhinol Lloegr, fel pe bai hynny'n haeddu sylw mewn gwlad arall sydd yn ei hanfod yn ddemocrataidd, sosialaidd.[5][6] Gan eraill, ystyrir fod tuedd y BBC yn erbyn datganoli'r Alban am y misoedd cyn Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014 wedi cael effaith gref ar farn pobl.[7][8][9][10]
Gall cyflyru pobl, heb iddynt wybod hynny liwio eu barn, a chreu tuedd annheg o blaid neu yn erbyn rhywbeth neu rywrai. Effaith bias systematig, fel hyn, yw creu rhagfarn - barn sydd wedi'i blannu, dros amser ym meddyliau pobl a gellid dweud fod pobl fel hyn yn unllygeidiog a'u meddwl yn gaeedig. Yr hyn sy'n groes i duedd yw niwtraliaeth neu feddwl agored.
Ers dyfodiad cyhoeddi, a'r gallu i greu llyfrau, un set o bobl yn unig a oedd a'r sgiliau angenrheidiol i ddarllen eu gwaith, a'r cyfoeth i fforddio llyfrau. Ar hyd y canrifoedd, mae cyhoeddwyr wedi ceisio llywio barn pobl drwy eu cyhoeddiadau; felly hefyd ar y we a'r cyfryngau cymdeithasol heddiw.[11]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru; adalwyd 20 Chwefror 2019.
- ↑ Rothman, K.J. et al. (2008) Modern Epidemiology (Lippincott Williams & Wilkins) tt.134-137.
- ↑ Neyman, J; Pearson, E S (1936). "Contributions to the theory of testing statistical hypotheses". Stat. Res. Mem. 1: 1–37.
- ↑ National Council on Measurement in Education http://www.ncme.org/ncme/NCME/Resource_Center/Glossary/NCME/Resource_Center/Glossary1.aspx?hkey=4bb87415-44dc-4088-9ed9-e8515326a061#anchorB Archifwyd 2017-07-22 yn y Peiriant Wayback
- ↑ golwg360.cymru; Gwefan Golwg 360; teitl: ‘Gormod o sylw i fabi Will a Kate’ medd gwylwyr; adalwyd 20 Chwefror 2019.
- ↑ golwg360.cymru; teitl - “For Wales, see England” – ymateb AS i ffrae Pont Hafren; adalwyd 20 Chwefror 2019.
- ↑ www.rt.com/uk; teitl y gwaith: BBC accused of anti-independence bias after editing out Salmond’s reply to ‘bank exodus’ question; adalwyd 20 Chwefror 2019.
- ↑ www.telegraph.co.uk; teitl y gwaith: Andrew Marr accused of bias over Scottish independence; adalwyd 20 Chwefror 2019.
- ↑ theguardian.com; The Guardian teitl y gwaith: Civil servants accused of bias during Scotland's independence referendum; adalwyd 20 Chwefror 2019.
- ↑ www.heraldscotland.com; The Herald teitl y gwaith: BBC needs to clear air over bias claims; adalwyd 20 Chwefror 2019.
- ↑ Ann Heinrichs, The Printing Press (Inventions That Shaped the World), t. 53, Franklin Watts, 2005, ISBN 0-531-16722-4, ISBN 978-0-531-16722-9
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.