UTC
| Enghraifft o: | safon amser |
|---|---|
| Yn cynnwys | eiliad naid |
| Rhagflaenydd | universal time |
| Dynodwyr | |
UTC (Amser yn ôl y Cyd-drefniant Byd-eang) yw'r talfyriad am y raddfa amser cydlyniedig byd-eang sydd wedi cael ei derbyn fel sylfaen amser gan y mwyafrif helaeth o wledydd y byd.
Er bod "UTC" yn ymddangos fel acronym, nid yw'n acronym dilys. Ym 1970 dyfeisiwyd y system Amser Cyffredinol Cydlynol gan grŵp cynghori rhyngwladol o arbenigwyr technegol o fewn yr Undeb Telathrebu Rhyngwladol (UTRh; Saesneg: International Telecommunication Union, ITU). Penderfynodd yr UTRh y byddai'n dynodi un byrfodd i'w ddefnyddio ym mhob iaith er mwyn osgoi peri dryswch. Ond ar ben hynny, roedden nhw'n dymuno osgoi ffafrio unrhyw iaith benodol. Felly, yn hytrach na defnyddio "CUT", sef y llythrenw ar gyfer "Coordinated Universal Time" yn Saesneg, neu "TUC", sef y llythrenw ar gyfer "Temps Universel Coordonné" yn Ffrangeg, dewiswyd y ffurf "UTC", sy'n ddatrisiad cyfaddawdol nad yw'n cyfateb i eiriau mewn unrhyw iaith.[1]

Cyfeiriadau
- ↑ National Institute of Standards and Technology (18 Ionawr 2011). "Frequently asked questions (FAQ)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-06. Cyrchwyd 18 Ionawr 2021.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.