Utamaro
| Utamaro | |
|---|---|
| Ganwyd | 北川 勇助 1753, 1754 Kawagoe, Edo |
| Bu farw | 31 Hydref 1806 Edo |
| Dinasyddiaeth | Japan |
| Galwedigaeth | ukiyo-e artist, arlunydd, arlunydd graffig, cymynwr coed |
| Adnabyddus am | Moonlight Revelry at Dozo Sagami, Three Beauties of the Present Day |
| Arddull | bijinga, Shunga |
| Prif ddylanwad | Torii Kiyonaga |
| Mudiad | ukiyo-e |
| llofnod | |

Roedd Kitagawa Utamaro (Siapaneg 喜多川 歌麿) (tua 1753 – 31 Hydref 1806) yn arlunydd a gwneuthuriwr printiau bloc Siapanëaidd a ystyrir yn un o'r arlunwyr Ukiyo-e pennaf.
Mae Utamaro yn adnabyddus yn neilltuol am ei astudiaethau hynod o ferched, llawn awyrgylch, a elwir bijinga. Cyhoeddoedd yn ogystal nifer o luniau o fyd natur, yn arbennig ar gyfer cyfres o lyfrau darluniedig am drychfilod. Cyrhaeddodd ei waith Ewrop yn ail hanner y 19g a chafodd ddylanwad mawr ar arlunwyr Ffrainc a gwledydd eraill.
Ychydig sy'n hysbys am fywyd personol Utamaro a'i yrfa ac mae'r hanes yn amrywio yn ôl ei ffynhonnell. Cafodd ei eni naill ai yn Edo (dinas Tokyo heddiw), Kyoto, neu Osaka, neu mewn dref ranbarthol anhysbys, tua'r flwyddyn 1753. Yn ôl traddodiad arall cafodd ei eni ynYoshiwara, ardal bleser enwog Edo, yn fab i berchennog tŷ te. Ei enw bedydd oedd Kitagawa Ichitaro.
Yn fachgen ifanc aeth yn brentis i'r arlunydd Toriyama Sekien. Arosodd efo Seiken hyd farwolaeth yr arlunydd yn 1788 (honnir un traddodiad fod Utamaro yn fab iddo). Newidiodd ei enw i Utamaro, fel oedd yr arfer, ac ymddengys iddi briodi hefyd, er na chafodd plant.
Mae Utamaro yn enwog am ei luniau sensitif a meistolgar o ferched, yn arbennig merched heirdd Yoshiwara. Mae ei luniau o drychfilod yn nodweddiadol o'i allu i ddal manylion ei wrthrych a'i ddangos mewn golau newydd. Yn ogystal roedd yn cynhyrchu nifer o brintiau erotig Shunga - byddai rhai yn dweud eu bod yn "bornograffig", ond roedd chwaeth yr oes yn wahanol - ar gyfer y farchnad boblogaidd.
Cyfresi lluniau print (detholiad)

Dyma'r prif gyfresi print a wnaeth Utamaro. Sylwer fod "blodau" isod yn golygu merched yn hytrach na phlanhigion ac mae sefydliadau braidd yn amheus yn Yoshiwara oedd y "Tai Gwyrddion":
- Cerddi Dethol (1791-1792)
- Deg math o gorff benywaidd (1792-1793)
- Blodau Edo (1792-1793)
- Deg astudiaeth ddysgedig o Ferched (1792-1793)
- Blodeugerdd: Pennod Serch (1793-1794)
- Eira, Lleuad a Blodau'r Tai Gwyrddion (1793-1795)
- Oriel Merched Delaf y Dydd (1794)
- Deuddeg Awr y Tai Gwyrddion (1794-1795)
- Merched mwyaf poblogaidd yr Oes (1795-1797)
- Oriel Cariadon Nwydus (1797-1798)
- Deg math o gorff benywaidd (II) (1802)
Llyfryddiaeth
- Shugo Asano a Timothy Clark, The Passionate Art of Kitagawa Utamaro (Llundain, 1995). Astudiaeth safonol.
- Jack Hillier, Utamaro: Color Prints and Paintings (Llundain, 1961)
- Tadashi Kobayashi (cyf. Mark A. Harbison), Great Japanese Art: Utamaro (Tokyo, 1982)
- Muneshige Narazaki a Sadao Kikuchi (cyf. John Bester), Masterworks of Ukiyo-E: Utamaro (Tokyo, 1968)
Dolenni allanol
- (Saesneg) Kitagawa Utamaro ar-lein
- Darluniau gan Utamaro Archifwyd 2007-09-29 yn y Peiriant Wayback
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.