Varanasi
| Math | dinas, dinas sanctaidd |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Afon Varuna, Assi River |
| Poblogaeth | 1,198,491 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Purvanchal |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 82.1 km² |
| Uwch y môr | 76 ±1 metr |
| Gerllaw | Afon Ganga, Afon Varuna |
| Yn ffinio gyda | Azamgarh |
| Cyfesurynnau | 25.3189°N 83.0128°E |
| Cod post | 221456 |
![]() | |
Dinas yn nhalaith Uttar Pradesh yn India yw Vārānasī, gynt Benares, Banaras neu Benaras. Ystyrir y ddinas yn ddinas sanctaidd gan ddilynwyr crefydd Hindŵaeth.
Saif Varanasi rhwng Afon Ganga ac Afon Varuna, ac ystyrir ei bod yn un o ddinasoedd hynaf y byd. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,371,749. Mae'n un o'r cyrchfannau pwysicaf i bererinion Hindŵaidd, ac mae mwy na 1,000,000 ohonynt yn ymweld â Varanasi bob blwyddyn. Dywedir i'r duw Shiva fyw yno unwaith. Cred dilynwyr Hindŵaeth fod ymdrochi yn Afon Ganga yn golchi ymaith bechodau, a bod marw yn Varanasi yn osgoi cylch dadeni. Canolbwynt y ddinas yw'r gatiau, grisiau sy'n arwain i lawr at yr afon.
Ceir nifer fawr o demlau yma; yr enwocaf yw Teml Kashi Vishwanath, wedi ei chysegru i Shiva. Mae Varanasi hefyd yn ddinas sanctaidd i ddilynwyr Jainiaeth. Ar gyrion y ddinas mae Sarnath, lle traddododd y Bwda ei bregeth gyntaf, yn fan sanctaidd i ddilynwyr Bwdhaeth.
Pobl enwog o Varanasi



Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.
