Western Mail
| Math | Papur dyddiol |
|---|---|
| Fformat | Compact |
| Golygydd | Alan Edmunds |
| Sefydlwyd | 1869 |
| Pencadlys | Chwech Stryd y Parc, Caerdydd |
| Cylchrediad | 11,719 (Ion-Rhag 2019)[1] |
| Chwaer-bapurau newyddion | South Wales Echo, Wales on Sunday |
| Gwefan swyddogol | walesonline.co.uk |
| Cost | 80c (£1.50 ar ddydd Sadwrn) |
Mae'r Western Mail yn bapur newydd beunyddiol yn yr iaith Saesneg a gyhoeddir gan y cwmni Media Wales Ltd yng Nghaerdydd sydd yn berchen i Trinity Mirror un o gwmnïau newyddion mwyaf y DU. Fe'i sefydlwyd yn 1869. Mae'n disgrifio ei hun fel "papur cenedlaethol Cymru". Cawsai ei gyhoeddi yn fformat argrafflen hyd 2004, pan newidiodd i fformat compact.
Yn ogystal â newyddion Cymru a gwledydd eraill Prydain a rhywfaint o newyddion tramor, mae'r papur yn rhoi llawer o le i newyddion rygbi, pêl-droed ac athletau Cymreig.
Hanes
Yn hanesyddol, yr oedd cysylltiad cryf rhwng y Western Mail a'i berchnogion, meistri'r diwydiant glo a haearn yn ne Cymru. Arweiniai hyn at agwedd lai na diduedd tuag at anghydfod diwydiannol yn y diwydiannau hynny, yn arbennig yn achos streiciau mawr y glowyr, agwedd a gofir hyd heddiw gan rai. Yn ogystal mae wedi dilyn gogwydd digon Prydeinig dros y blynyddoedd, yn arbennig tuag at teulu brenhinol Lloegr a'r mudiad cenedlaethol yng Nghymru.
Yn ddiweddar fodd bynnag, ac yn arbennig ers datganoli a sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae'r papur wedi mabwysiadu safbwynt mwy poblogaidd, Cymreigaidd.
Ei brif gystadleuydd yn y farchnad Gymreig yw'r Daily Post yn y gogledd. Ers tro byd mae'r Daily Post wedi rhoi'r gorau i gystadlu llawer yn y De â'r Western Mail ac yn canolbwyntio bron yn llwyr ar y Gogledd, ond mae'r Western Mail yn cael ei weld fel papur i Dde Cymru gan nifer o bobl yn y Gogledd o hyd. Mae'n debyg fod rhaniad ffocws daearyddol y ddau bapur yn deillio o'r ffaith eu bod yn rhannu'r un perchennog, sef cwmni Trinity Mirror ccc. Byddai'r cynllun arfaethedig i gyhoeddi papur newydd beunyddiol Cymreig arall yn y dyfodol agos, The Welsh Globe yn cynyddu'r gystadleuaeth mae'r papur yn ei wynebu.
Prin yw'r defnydd o'r Gymraeg yn y Western Mail. Ar un adeg roedd yr ysgolhaig Bedwyr Lewis Jones yn sgwennu colofn iddo ar eirdarddiad geiriau Cymraeg.
Yn 2016 penodwyd y golygydd benywaidd cyntaf ers i'r papur gychwyn. Cychwynodd Catrin Pascoe ar ei swydd ar 1 Mawrth 2016 gan olynu Alan Edmunds, a symudodd i swydd cyfarwyddwr rhanbarthol gyda Trinity Mirror.[2]
Gwefan
Cychwynodd gwmni y Western Mail eu gwefan gynta yn 1997 o dan y brand 'Total Wales' gan ddefnyddio deunydd o'r papur newydd a nodweddion eraill o gylchgronau y cwmni.[3]. Datblygodd hyn dros y blynyddoedd gyda ail-lansiad o dan y brand 'Wales Online' yn 2008.[4] Erbyn hyn mae'r wefan yn cynnwys storiau sy'n diweddaru drwy'r dydd, erthyglau o'r papur newydd a erthyglau arbennig i'r wefan. Mae yna newid pwyslais wedi digwydd gyda cynnydd mawr mewn erthyglau 'rhestr', yn yr arddull a boblogeiddwyd gan wefan Buzzfeed, er mwyn denu darllenwyr i ddilyn dolenni o wefannau cymdeithasol. Mae nifer wedi beirniadu y strategaeth yn cynnwys undeb y newyddiadurwyr yr NUJ.[5]
Cyfeiriadau
- ↑ "Circulation per issue" (PDF). Abc.org.uk. Cyrchwyd 23 Mai 2019.
- ↑ Dynes gynta’ i fod yn olygydd y Western Mail , Golwg 360, 8 Chwefror 2016.
- ↑ (Saesneg) Archif gwefan o 'Total Wales'. Adalwyd ar 8 Chwefror 2016.
- ↑ (Saesneg) Tudalen Facebook Wales Online. Adalwyd ar 8 Chwefror 2016.
- ↑ NUJ fears Trinity Mirror click targets could 'dumb down' news (en) , BBC News, 10 Medi 2015. Cyrchwyd ar 8 Chwefror 2016.
Dolenni allanol
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.