Alaska
| Arwyddair | North to the Future |
|---|---|
| Math | allglofan, taleithiau'r Unol Daleithiau |
| Prifddinas | Juneau |
| Poblogaeth | 733,391 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | Alaska's Flag |
| Pennaeth llywodraeth | Mike J. Dunleavy |
| Cylchfa amser | UTC−09:00, UTC+14:00, Hawaii–Aleutian Time Zone, America/Anchorage |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Tlingit, ik, Yupik, Alutiiq, Aleut, Dena'ina, Deg Xinag, Holikachuk, Koyukon, Upper Kuskokwim, Gwich’in, Tanana, Tanacross, Hän, Ahtna, Eyak, Haideg, Tsimshian, Tsetsaut |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | continental United States |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 1,717,856 km² |
| Uwch y môr | 580 metr |
| Gerllaw | Y Cefnfor Tawel, Cefnfor yr Arctig |
| Yn ffinio gyda | Yukon, British Columbia, Ocrwg Ymreolaethol Chukotka |
| Cyfesurynnau | 64°N 150°W |
| US-AK | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | State of Alaska |
| Corff deddfwriaethol | Alaska Legislature |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Alaska |
| Pennaeth y Llywodraeth | Mike J. Dunleavy |
![]() | |
49fed talaith yr Unol Daleithiau (UDA) yw Alaska neu yn Gymraeg Alasga.[1] Fe'i derbyniwyd i'r undeb ar 3 Ionawr 1959. Yn 2000 roedd poblogaeth y dalaith yn 626,932.
Daeth pobl i Alaska gyntaf dros Pont Tir Bering. Yn raddol cyfaneddwyd hi gan lwythau Esgimo fel yr Inupiaq, yr Inuit a'r Yupik, a brodorion Americanaidd fel yr Aleut. Mae'r cofnod ysgrifenedig cyntaf yn awgrymu i'r Ewropeaid cyntaf gyrraedd Alaska trwy Rwsia.

Daeareg
Mae toreth o ynysoedd a 54,720 km (34,000 milltir) o draethau yn Alaska, gan gynnwys Ynysoedd Aleutia. Ceir ar yr ynysoedd hyn lawer o losgfynyddoedd megis Mount Shishaldin ar Ynys Unimak, sy'n codi 3,048 o fetrau (10,000 o droedfeddi) uwchlaw'r môr ac a welir yn mygu'n achlysurol. Credir mai dyma'r côn mwyaf perffaith yn y byd o ran siâp, hyd yn oed yn berffeithiach na Mount Fuji yn Japan. Mae'r mwclis o losgfynyddoedd yn llifo i'r tir mawr lle gwelir Mount Spurr i'r gorllewin o Anchorage. Cred y daearegwyr fod rhanbarth eitha eang o dir sy'n cynyddu'n ddyddiol o ran maint, gelwir yr ardal yma'n Wrangellia ac mae'n cwmpasu sawl talaith arall a rhan o Ganada.
Ceir un o'r llanw mwya'n y byd ym Mraich Turnagain i'r de o Anchorage - gall y gwahaniaeth uchder rhwng y llanw a'r trai yn y rhan hon o'r byd fod cymaint â 10.7 m (35 troedfedd).
Mae gan y wlad dros dair miliwn o lynnoedd. Ceir rhew parhaol (neu permaffrost) yn gorchuddio 487,747 km2 (188,320 milltir) o dir yn y gogledd a'r de-orllewin. Mae rhewlifoedd yno hefyd: dros 41,440 km2 (16,000 milltir sgwâr) o'r tir. Un o'r rhewlifoedd mwyaf yw Rhewlif Bering ger Yukon, sydd ar ei ben ei hun yn gorchuddio dros 5,827 km2 (2,250 millt sg) o dir. Ceir tua 100,000 rhewlif i gyd: hanner cyfanswm y byd!
Dinasoedd Alaska
| 1 | Anchorage | 291,826 |
| 2 | Juneau | 31,275 |
| 3 | Fairbanks | 31,535 |
| 4 | Sitka | 8,986 |
| 5 | Ketchikan | 8,050 |
| 6 | Nome | 3,598 |
| 7 | Ruby | 169 |
| 8 | Wales | 145 |
Cyfeiriadau
- ↑ Geiriadur yr Academi, [Alaska].
Dolen allanol
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.
