Tennessee
| Arwyddair | Agriculture and Commerce |
|---|---|
| Math | taleithiau'r Unol Daleithiau |
| Enwyd ar ôl | Tanasi |
| Prifddinas | Nashville |
| Poblogaeth | 6,910,840 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Bill Lee |
| Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain, Cylchfa Amser Canolog |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 109,247 km² |
| Uwch y môr | 280 metr |
| Yn ffinio gyda | Arkansas, Missouri, Kentucky, Virginia, Gogledd Carolina, Georgia, Alabama, Mississippi |
| Cyfesurynnau | 36°N 86°W |
| US-TN | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Tennessee State Government |
| Corff deddfwriaethol | Tennessee General Assembly |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Tennessee |
| Pennaeth y Llywodraeth | Bill Lee |
![]() | |
Mae Tennessee yn dalaith yn ne canolbarth yr Unol Daleithiau, sy'n ymrannu'n Ddwyrain, Canolbarth a Gorllewin Tennessee. Yn Nwyrain Tennessee ceir ardal o fryniau coediog; mae Canolbarth Tennessee (Middle Tennessee), drofa ar Afon Tennessee, yn ardal o lwyfandir ucheldirol a bryniau, ac mae Gorllewin Tennessee yn ardal o gorsydd a thir isel sy'n gorwedd rhwng Afon Tennessee ac Afon Mississippi. Brwydrai Prydain Fawr a Ffrainc am feddiant o'r ardal yn yr 17g a daeth dan reolaeth Prydain. Cafodd ei datgan yn diriogaeth yn 1790 a daeth yn dalaith yn 1796. Cefnogodd y De yn Rhyfel Cartref America. Bu'n dyst i anghydfod sifil yn y 1960au; saethwyd Martin Luther King ym Memphis yn 1968. Nashville yw'r brifddinas.

Mewnfudo o Gymru
Yn dilyn y Rhyfel Cartref symudodd 104 teulu Cymraeg o Pennsylvania i Ddwyrain Tennessee - i ran o'r enw Mechanicsville, a rhan o ddinas Knoxville. Fe'u cyflogwyd gan y brodyr Joseph a David Richards (a John H. Jones)i weithio mewn ffatri metal. Roedd y brodyr wedi sefydlu Gwaith Haearn Knoxville gerllaw rheilffordd yr "L&N Railroad", ar safle a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach fel safle ar gyfer "1982 World's Fair". Mae'r hen ffwndri, a ddefnyddir heddiw fel tŷ bwyta, yn dal i sefyll; yr unig ddarn.
Codwyd capel Cymraeg ganddynt, gyda'r Parchedig Thomas Thomas yn weinidog arnynt yn 1870. Gwerthwyd y capel yn 1899.
Daeth y gwladychwyr Cymreig hyn yn llwyddiannus iawn yn yr ardal gan sefydlu sawl busnes arall yn y ddinas, gan gynnwys y cwmni oedd yn gyfrifol am greu cerbydau rheilffordd, cwmni llechi (a thoi), cwmni marmor a sawl cwmni gwneud dodrefn. Erbyn 1930 roedd plant y teuluoedd wedi lledaenu drwy'r ddinas a siroedd eraill megis Swydd Sevier. Heddiw, mae dros 250 teulu'n olrhain eu hachau i'r mewnfudwyr cyntaf hynny ac maent yn parhau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Dinasoedd Tennessee
| 1 | Memphis | 662,897 |
| 2 | Nashville | 626,681 |
| 3 | Knoxville | 178,874 |
| 4 | Chattanooga | 167,674 |
| 5 | Clarksville | 132,929 |
| 6 | Soddy-Daisy | 11,530 |
Dolenni allanol
- (Saesneg) www.tennessee.gov
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.
