Anws
| 1: Y geg 2: Taflod 3: Tafod bach 4: Tafod 5: Dannedd 6: Chwarennau poer 7: Isdafodol 8: Isfandiblaidd 9: Parotid 10: Argeg (ffaryncs) 11: Sefnig (esoffagws) 12: Iau (Afu) 13: Coden fustl 14: Prif ddwythell y bustl 15: Stumog | 16: Cefndedyn (pancreas) 17: Dwythell bancreatig 18: Coluddyn bach 19: Dwodenwm 20: Coluddyn gwag (jejwnwm) 21: Glasgoluddyn (ilëwm) 22: Coluddyn crog 23: Coluddyn mawr 24: Colon trawslin 25: Colon esgynnol 26: Coluddyn dall (caecwm) 27: Colon disgynnol 28: Colon crwm 29: Rhefr: rectwm 30: Rhefr: anws | ||||
Un o organau'r system dreulio mewn pobl ac anifeiliaid yw'r anws (o'r Lladin anus ("cylch"), drwy'r Saesneg).[1] Agorfa ar ben ôl y llwybr ymborth ydyw, a'i bwrpas yw ysgarthu, sef allwthio o'r corff y gwastraff lled-solet a gynhyrchir wrth dreulio bwyd. Gall ysgarthion, yn dibynnu ar yr anifail, gynnwys mater anhreuliadwy megis esgyrn,[2] olion bwyd megis seliwlos neu lignin wedi i'r corff dynnu'r holl faetholion ohono, tocsinau, ac endosymbiontiaid meirw neu ormodol megis bacteria'r stumog a'r coluddyn.
Un agen yn unig, a elwir cloaca, sydd gan amffibiaid, ymlusgiaid, ac adar ar gyfer troethi ac ysgarthu, cyfathrach rywiol, a dodwy. Cloaca sydd hefyd gan famaliaid yr urdd Monotremata (yr hwyatbig a theulu'r ecidna), nodwedd o bosib a etifeddir gan yr amniotau cynharaf drwy linach y therapsidau. Medda'r bolgodogion ar un twll ar gyfer ysgarthu baw a throeth, a gwain ar wahân gan y fenyw ar gyfer atgenhedlu (cyplu â'r gwryw ac esgor ar epil). Yn achos y mamaliaid hynny sy'n cario'r ffetws yn y groth ac yn ei fwydo drwy'r brych, mae'r fenyw yn meddu ar dair agen wahanol ar gyfer ysgarthu (anws), troethi (wrethra), ac atgenhedlu (gwain), a'r gwryw yn meddu ar anws i ysgarthu ac wrethra a chanddi dwy biben ar wahân i droethi ac alldaflu.
Cam pwysig yn esblygiad anifeiliaid amlgellog oedd datblygiad yr anws. Ymddengys iddo ddigwydd dwywaith, yn esblygiad y Protostomia a'r Deuterostomia fel ei gilydd.
Cyfeiriadau
- ↑ anws. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Mawrth 2017.
- ↑ Chin, K.; Erickson, G.M. (1998-06-18). "A king-sized theropod coprolite". Nature 393 (6686): 680. doi:10.1038/31461. http://www.nature.com/nature/journal/v393/n6686/abs/393680a0.html. Summary at Monastersky, R. (1998-06-20). "Getting the scoop from the poop of T. rex". Science News (Society for Science &) 153 (25): 391. doi:10.2307/4010364. JSTOR 4010364. http://www.sciencenews.org/pages/sn_arc98/6_20_98/fob2.htm. Adalwyd 2017-03-30.
| Bioleg | Anatomeg | System dreulio |
|
Ceg | Ffaryncs | Oesoffagws | Stumog | Cefndedyn | Coden fustl | Afu | Dwodenwm | Coluddyn gwag | Ilëwm | Coluddyn mawr | Caecwm | Rectwm | Anws |
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.