Auckland
| Math | dinas, dinas â phorthladd, y ddinas fwyaf, dinas global, metropolis |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | George Eden |
| Poblogaeth | 1,470,100 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Wayne Brown |
| Gefeilldref/i | Guangzhou, Los Angeles, Brisbane, Busan, Fukuoka, Hamburg, Gaillimh, 臺中市, Pohang, Nadi, Utsunomiya, Shinagawa, Kakogawa-shi, Tomioka, Qingdao, Ningbo, Concepción, Ynysoedd Cook, Samoa, Tonga |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Maori |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 559 ±1 km² |
| Uwch y môr | 196 metr |
| Gerllaw | Waitematā Harbour, Manukau Harbour, Hauraki Gulf / Tīkapa Moana |
| Cyfesurynnau | 36.8492°S 174.7653°E |
| Cod post | 0600–2699 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Wayne Brown |
![]() | |
| Auckland Tāmaki Makaurau (Maori) | |
|---|---|
| |
| Gwlad | Seland Newydd |
| Ynys | Ynys y Gogledd |
| Ardal | Ardal Auckland |
| Awdurdodau Tiriogaethol Seland Newydd | Cyngor Auckland |
| Sefydlwyd gan y Māori | c. 1350 |
| Sefydliad Ewropeaidd | 1840 |
| Byrddau Lleol | |
| Arwynebedd | |
| • Trefol | 482.9 km2 (186.4 mi sg) |
| • Metro | 559.2 km2 (215.9 mi sg) |
| Poblogaeth (June 2011 estimate) | |
| • Dinesig | 1,377,200 |
| • Metro | 1,486,000 |
| • Demonym | Aucklander, Jafa |
| Parth amser | NZST (UTC+12) |
| • Summer (DST) | NZDT (UTC+13) |
| Codau Post | 0500-2999 |
| Cod ffôn | 09 |
| Local iwi | Ngāti Whātua, Tainui |
| Website | www.aucklandcouncil.govt.nz |
Dinas fwyaf Seland Newydd yw Auckland (Maori: Tāmaki-makau-rau).
Lleoliad
Fe'i lleolir ar Ynys y Gogledd, ac mae'n gorwedd rhwng Harbwr Manukau ar Fôr Tasman a Harbwr Waitemata ar y Môr Tawel. Mae tua 50 o losgfynyddoedd yn ardal Auckland. Ffurfiwyd Ynys Rangitoto, yr un diweddaraf, tua 700 mlynedd yn ôl, a dinistriwyd yr anheddiad Maori ar Ynys Mototapu.

Hanes
Daeth y Maori i Auckland tua 650 mlynedd yn ôl. Roedd yn arfer gan y Maori i sefydlu caerau ar ben yr hen losgfynyddoedd, megis Mynydd Eden ac One Tree Hill. Un o'r enwau Maori yr ardal yw Tamaki herenga waka', sy'n golygu 'gorffwysfan llawer o gychod'; harbwr diogel ar eu cyfer nhw.
Ym 1642, darganfuwyd Seland Newydd gan Abel Tasman ac ym 1769, cyrhaeddodd James Cook i fapio'r arfordir. Erbyn 1840 roedd Prydeinwyr wedi cyrraedd; llofnodwyd Cytundeb Waitangi rhyngddynt a'r Maori ar 6 Chwefror, 1840. Dewisodd William Hobson, rhaglaw cyntaf Seland Newydd, Auckland fel prifddinas. Dewisodd Hobson yr enw Auckland, enw ei gyn-gadlywydd, yr Arglwydd Auckland, rhaglaw India yr adeg honno. Enw teuluol yr arglwydd oedd Eden, enw arall sy'n ymddangos yn yr ardal. Erbyn 1843 roedd gan Auckland dros 3,000 o drigolion, ac erbyn diwedd yr 1860au, roedd 12,000 ohonynt.
Prif ardal fasnachol y dref wreiddiol oedd Commercial Bay, rhwng Point Britomart a'r esgair lle mae Heol Swanson heddiw. Gerllaw, i'r gorllewin, roedd Official Bay, lle roedd swyddogion y llywodraeth yn byw. Mechanics Bay oedd yr un nesaf i'r gorllewin, oherwydd gwaith ei drigolion.
Erbyn yr 1890au, clywyd llawer o ieithoedd ar y strydoedd llawn bobl o Ewrop, Tsieina ac India, heb sôn am bobl Maori oedd wedi cyrraedd o ardaloedd gwledig.
Heddiw

Erbyn hyn, Auckland yw'r ddinas Bolynesaidd fwyaf y byd. Mae 63% o'i thrigolion o dras Ewropiaidd, 11% Maori, 13% o ynysoedd y Môr Tawel a 12% o Asia. Roedd gan y ddinas 1,377,200 o drigolion yn 2011, sef 31% o boblogaeth y wlad bryd hynny.
Cludiant
Mae gan Auckland rwydwaith o reilffyrdd a bysiau ar gyfer cludiant lleol. Trydanir y rheilffyrdd lleol ar hyn o bryd. Does ond un trên bellter hir yn gadael Auckland, sef yr Overlander, sy'n mynd i Wellington. Canolbwynt cludiant cyhoeddus y ddinas – bysiau a rheilffyrdd - yw Canolfan Cludiant Britomart.

Mae Sealink yn cynnig fferi i Ynys Waiheke ac Ynys Great Barrier, ynysoedd mwyaf Gwlff Hauraki. Mae cwmni Fullers hefyd yn cynnig fferi sy'n gadael cei o flaen Canolfan Britomart i Ynysoedd Waiheke a Great Barrier, ac yn mynd ar draws yr harbwr i Devonport, ac i Ynys Rangitoto ac Ynys Motutapu.
Mae gan Auckland faes awyr rhyngwladol, yr un prysuraf yn Seland Newydd, sydd 21 cilomedr i'r de o ganol y ddinas. Côd y maes awyr yw AKL.[1]
Atyniadau
- Auckland Domain: Parc mawr ynghanol y ddinas, sy'n cynnwys Y Winter Gardens ac Amgueddfa Auckland.
- Neuadd y Dref: Adeiladwyd ym 1911, yn cynnwys neuadd gyngerdd bwysig.
- Parc Eden: prif stadiwm chwaraeon y ddinas.
- Pentref Parnell: yn agos at y Domain, yn cynnwys tai, eglwys a mynwent yn dyddio o sefydliad y dref wreiddiol.
- Pont yr Harbwr: yn cysylltu canol Auckland efo gogledd y ddinas dros y bae.
- Harbwr Viaduct: yn cynnwys harbwr, tai bwyta, dwy amgueddfa forwrol, gwestai a chanolfan ddigwyddiadau.
'City of Sails'
Honnir bod gan Auckland fwy o gychod y pen nac unrhyw ddinas arall yn y byd.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.
