Blaidd
| Blaidd | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Carnivora |
| Teulu: | Canidae |
| Genws: | Canis |
| Rhywogaeth: | C. lupus |
| Enw deuenwol | |
| Canis lupus Linnaeus, 1758 | |

Mamal o'r teulu Canidae yw'r Blaidd (Canis lupus). Y Blaidd yw'r aelod mwyaf o'r teulu, 0.6 hyd 0.9 medr (26–36 modfedd) o daldra wrth yr ysgwydd, ac yn pwyso rhwng 32 a 62 kilogram (70–135 pwys). Dangoswyd trwy astudiaethau DNA fod y ci yn perthyn yn agos i'r blaidd, ac yn cael ei roi yn yr un rhywogaeth Canis lupus; ystyrir y ci fel yr is-rywogaeth C. lupus familiaris.
Ar un adeg roedd y blaidd yn gyffredin dros y rhan fwyaf o Ewrop a Gogledd America, ond mae hela a difrodi yr amgylchedd wedi gostwng ei niferoedd yn sylweddol. Credir fod y boblogaeth fwyaf yn Casachstan, sydd a tua 90,000, a Canada (tua 60,000). Credir i'r blaidd olaf yng Nghymru gael ei ladd rywbryd tua dechrau'r 16g, er nad oes sicrwydd o hyn. Diflannodd bleiddiaid yr Alban ac Iwerddon yn ystod y 18g.
Ymlediad yn Ewrop
Ffrainc
O 2021 ymlaen, amcangyfrifir bod y boblogaeth genedlaethol tua 580 o unigolion ledled y wlad ac mae'r rhywogaeth yn parhau i ledaenu i'r gogledd-orllewin. Daeth tystiolaeth flaenorol i awgrymu bod bleiddiaid yn dechrau ail-gytrefu i orllewin Ffrainc ym mis Hydref 2021, pan ddarganfuwyd un yn farw yn Loire-Atlantique, ar ôl dioddef damwain ffordd.
Yn Llydaw cafodd anifail ei ffilmio gan drap camera yng nghwmwd Berrien, sydd wedi'i leoli ym Mynyddoedd Arrée, ar 3 Mai 2022. Gorwedd Berrien rhyw 45 km i'r dwyrain o Brest , yn adran ogledd-orllewinol Penn-ar-Bed .
Cafodd y blaidd ei alltudio o wlad Llydaw yn gynnar yn yr 20fed ganrif oherwydd pwysau hela, ac fe'i collwyd yn ddiweddarach o Ffrainc gyfan. Fodd bynnag, wrth i erledigaeth leddfu, ail-gytrefodd y cŵn yn naturiol wrth i unigolion symud i dde Ffrainc o'r Eidal trwy'r Alpau yn gynnar yn y 1990au[1]
Symbolaeth a mytholeg
Rhoddir lle pwysig i'r blaidd mewn mytholeg a llên gwerin; er enghraifft yr hanes am Romulus, sefydlydd dinas Rhufain, a'i efaill Remus yn cael eu magu gan fleiddast pan yn blant. Ym mytholeg Llychlyn, ar ddiwedd y byd bydd Odin yn arwain y duwiau da yn erbyn lluoedd y fall ac yn ymladd â'r blaidd ofnadwy Fenris i amddiffyn Asgard. Yn chwedl Math fab Mathonwy mae Math yn cosbi Gwydion fab Dôn a'i frawd Gilfaethwy fab Dôn am dreisio Goewin a dechrau rhyfel rhwng Gwynedd a Deheubarth trwy eu troi yn flaidd a bleiddast am flwyddyn. Dychwelant gyda mab a gaiff ei fedyddio gyda'r enw Bleiddwn.
Cysylltir y blaidd yn aml a seintiau; er enghraifft y chwedl adnabyddus am Sant Ffransis o Assisi yn dofi blaidd oedd wedi bod yn ddychryn i ddinas Gubbio. Yng Nghymru, dywedir fod gan y sant Brynach Wyddel flaidd dof oedd yn gwarchod ei fuwch.
Roedd y blaidd hefyd yn symbol o ffyrnigrwydd, ac o'r herwydd byddai'r enw "Blaidd" yn cael ei roi i ryfelwyr, er enghraifft Rhirid Flaidd yng Nghymru. Ceir "blaidd" neu "bleiddast" mewn llawer o enwau lleoedd yng Nghymru, er enghraifft Casblaidd yn Sir Benfro.
Gweler hefyd
Llyfryddiaeth
- Cledwyn Fychan (2006). Galwad y Blaidd. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. ISBN 9781845120481
Cyfeiriadau
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.
