Catar
| Gwladwriaeth Catar República Federativa do Brasil | |
| Arwyddair | Ble daw breuddwydion yn fyw |
|---|---|
| Math | Emirate, gwladwriaeth sofran, gwlad |
| Prifddinas | Doha |
| Dinas fwyaf | Doha |
| Poblogaeth | 2,639,211 |
| Sefydlwyd | 18 Rhagfyr 1878 (Diwrnod Cenedlaethol Catar) 3 Medi 1971 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr (y DU) |
| Anthem | As Salam al Amiri |
| Pennaeth llywodraeth | Mohammed bin Abdulrahman Al Thani |
| Cylchfa amser | UTC+03:00, Asia/Qatar |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | De-orllewin Asia, Y Dwyrain Canol, Gwladwriaethau'r Gwlff |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 11,437 ±1 km² |
| Yn ffinio gyda | Sawdi Arabia, Iran |
| Cyfesurynnau | 25.26954°N 51.21277°E |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Cynulliad Ymgynghorol Qatar |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | Emir Gwladwriaeth Qatar |
| Pennaeth y wladwriaeth | Tamim bin Hamad Al Thani |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Qatar |
| Pennaeth y Llywodraeth | Mohammed bin Abdulrahman Al Thani |
![]() | |
| Ariannol | |
| Cyfanswm CMC (GDP) | $179.7 biliwn, $237.3 biliwn |
| Arian | Qatari riyal |
| Cyfartaledd plant | 2.026 |
| Mynegai Datblygiad Dynol | 0.855 |
Gwlad yng Ngorllewin Asia yw Catar (Arabeg: قطر ; ˈqɑ̱.tˁɑ̱r), yn swyddogol Gwladwriaeth Catar (Arabeg: دولة قطر Dawlaṫ Qatar) a leolir ar orynys ar arfordir gogledd-ddwyreiniol Arabia yn y Dwyrain Canol. Mae'n ffinio â Sawdi Arabia i'r de—ei hunig ffin—ac amgylchynir ei harfordir gan Gwlff Persia. Mae ynys Bahrein yn gorwedd i'r gorllewin, ar ochr draw Gwlff Bahrein. Doha, sy'n gartref i iwch na 80% o drigolion y wlad, ydy'r brifddinas.
Yn 2013 roedd poblogaeth Catar yn 1.8 miliwn; 278,000 o ddinasyddion Qatari ac 1.5 miliwn o alltudion. Yn y cyfrifiad diweddaraf roedd poblogaeth y wlad yn 2,639,211 (2017)[1], sy'n llai na phoblogaeth Cymru.
Hanes
Yn yr 20g, ar ôl iddi gael ei rheoli gan Ymerodraeth yr Otomaniaid, fe'i rheolwyd gan Brydain nes iddi ddod yn annibynnol yn 1971. Chwaraeodd y teulu Al Thani le blaenllaw yn ei rheolaeth ers canol y 19g, ac mae Catar heddiw dan reolaeth unbeniaethol ei theulu brenhinol; ei harlywydd yw Emir Tamim bin Hamad Al Thani.[2] Wedi Sawdi Arabia, Qatar yw'r gymdeithas mwyaf ceidwadol o aelodau'r مجلس التعاون لدول الخليج العربية (Cyngor Cydweithredol y Gwlff (neu'r GCC)).[3][4]
Crefydd
Mae'r rhan fwyaf o Gatariaid yn cadw'n agos iawn i ddehongliad Wahhabi o Islam.<[5][6][6][7][8][9] Cyfraith Sharia yw prif ffynhonnell eu cyfreithiau, yn unol â chyfreithiau eu gwlad.[7][8]
Heddiw
Catar yw gwlad gyfoethoca'r byd, yn ôl y pen, gyda thwf uwch nag unrhyw wlad Arabaidd arall. Caiff hefyd ei chydanbod fel 'economi incwm uchel' gan Fanc y Byd.[10][11] Mae ganddi fwy o nwy wrth gefn nag unrhyw wlad arall ar y Ddaear; mae ei chronfa wrth gefn dros 25 biliwn casgen. Oherwydd hyn i gyd, mae dylanwad Catar yn fawr iawn. Yn ystod y Gwanwyn Arabaidd, cefnogodd Catar nifer o grwpiau gwrthryfelgar, yn ariannol a thrwy ei grŵp cyfryngol Al Jazeera.[12][13][14] Qatar fydd yn cynnal Cwpan y Byd FIFA yn 2022, y wlad Arabaidd gyntaf i wneud hynny.[15]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ https://data.worldbank.org/indicator/SP.POP.TOTL. World Bank Open Data. retrieved: 8 Ebrill 2019.
- ↑ "Qatar: regional backwater to global player". BBC News.
- ↑ "Qatar: Revolution From the Top Down". National Geographic. Cyrchwyd 7 Mawrth 2014.
- ↑ "For Qatari Women, Change Slow in Coming". ABC News. Cyrchwyd 7 Mawrth 2014.
- ↑ "Tiny Qatar's growing global clout". BBC.
- ↑ 6.0 6.1 "Qatar's modern future rubs up against conservative traditions". Reuters. 27 Medi 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2014-10-11.
- ↑ 7.0 7.1 "The Permanent Constitution of the State of Qatar". Government of Qatar. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-06. Cyrchwyd 2014-10-11.
- ↑ 8.0 8.1 "Constitution of Qatar".
According to Article 1: Qatar is an independent Arab country. Islam is its religion and Sharia law is the main source of its legislation.
- ↑ "Rising power Qatar stirs unease among some Mideast neighbors". Reuters. 12 Chwefror 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 13 Mehefin 2013.
- ↑ Beth Greenfield (18 Ebrill 2012). "World's Richest Countries". Forbes. Cyrchwyd 22 Ionawr 2013.
- ↑ "Indices & Data | Human Development Reports". United Nations Development Programme. 14 Mawrth 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Ionawr 2013. Cyrchwyd 27 Mehefin 2013.
- ↑ Dagher, Sam (17 Hydref 2011). "Tiny Kingdom's Huge Role in Libya Draws Concern". Online.wsj.com. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2013.
- ↑ "Qatar: Rise of an Underdog". Politicsandpolicy.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-10. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2013.
- ↑ Ian Black in Tripoli. "Qatar admits sending hundreds of troops to support Libya rebels". Theguardian.com. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2013.
- ↑ Paul Rhys in Doha. "Blatter reaches out to Arabia". Aljazeera.com. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2013.
| ||||||||||
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.
