Libia
| Gwladwriaeth Libia دولة ليبيا (Arabeg) (ynganiad: Dawlat Lībiyā) | |
| Math | gwladwriaeth sofran, gwlad Môr y Canoldir, gwlad |
|---|---|
| Prifddinas | Tripoli |
| Poblogaeth | 7,381,023 |
| Sefydlwyd | 10 Chwefror 1947 (Datganiad o Annibyniaeth oddi wrth Lloegr (y DU) 17 Chwefror 2011 (Y Rhyfel Cartref 1af) |
| Anthem | Libia, Libia, Libia |
| Pennaeth llywodraeth | Abd al-Hamid Dbeibeh |
| Cylchfa amser | UTC+2, EET, Africa/Tripoli |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | Libia |
| Arwynebedd | 1,759,541 ±1 km² |
| Gerllaw | Môr y Canoldir |
| Yn ffinio gyda | Yr Aifft, Swdan, Tiwnisia, Algeria, Tsiad, Niger |
| Cyfesurynnau | 27°N 17°E |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Tŷ y Cynrychiolwyr, Uwch Gyngor y Wladwriaeth |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | Cadeirydd Cyngor yr Arlywyddiaeth |
| Pennaeth y wladwriaeth | Mohamed al-Menfi |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Libia |
| Pennaeth y Llywodraeth | Abd al-Hamid Dbeibeh |
![]() | |
| Ariannol | |
| Cyfanswm CMC (GDP) | $39.8 biliwn, $45.75 biliwn |
| Arian | Dinar Libia |
| Canran y diwaith | 19 ±1 canran |
| Cyfartaledd plant | 2.467 |
| Mynegai Datblygiad Dynol | 0.718 |
Gwlad yng ngogledd Affrica, sy'n ffinio â Môr y Canoldir, yw Libia. Mae wedi ei lleoli rhwng yr Aifft i'r dwyrain, Swdan i'r de-ddwyrain, Tsiad a Niger i'r de ac Algeria a Tiwnisia i'r gorllewin. Ei phrifddinas yw Tripoli. Tair rhanbarth draddodiadol y wlad yw Tripolitania, y Fezzan a Cyrenaica. Mae'r wlad yn un o'r 10 gwlad sy'n cynhyrchu mwyaf o olew drwy'r byd.
Daearyddiaeth
- Prif: Daearyddiaeth Libia
Mae rhan fawr o Libia'n gorwedd yn anialwch y Sahara, gyda 1,800,000 kilometr sgwar (700,000 milltir sgwar). Hi yw'r bedwaredd wlad fwyaf yn Affrica, a'r 17ed yn y byd. Mae 1.7 miliwn o drigolion y wlad yn byw yn Tripoli, y brif ddinas, allan o boblogaeth o 6.4 miliwn.
Hanes
- Prif: Hanes Libia
Cynhanes

Dros 10 mil o flynyddoedd yn ôl roedd 90% o'r wlad yn llawn o blanhigion a choed, gyda hinsawdd debyg i wledydd y Canoldir. Dengys tystiolaeth archaeolegol mai'r Berberiaid oedd yn byw yn y rhan yma o Affrica yn Oes Newydd y Cerrig. Gallent dyfu cnydau a magu anifeiliaid.
Y Ffeniciaid a'r Groegwyr
Tua 500 CC roedd dylanwad Ffeniciaid ar yr ardal yn gryf a gwelwyd sefydlu tair dinas yn yr ardal rydym heddiw'n ei alw'n Tripolis ("tair dinas"). Erbyn 630 roedd yr Hen Roegiaid wedi sefydlu 630 BC, porthladd Cyrene ac yna pedair dinas arall yn ystod y blynyddoedd dilynol, a galwyd rhain y Pentapolis ("pum dinas").
Tyfodd Cyrene yn un o ganolfannau celfyddydol ac academig drwy gydol y byd Groegaidd, gyda'i hysgol meddygol a phensaerniol a'i chanolfannau dysg heb eu hail drwy'r byd.
Y Rhufeiniaid
Ymosododd y Rhufeiniaid ar yr ardal o gwmpas Tripoli) yn 106 CC ac erbyn 64 CC roedd llengoedd Iwl Cesar wedi cadarnhau a chryfhau'r dair ardal yn Rhanbarth Rufeinig, gan greu (o ran tiriogaeth) am y tro cyntaf y ffiniau presennol.
Llewyrchodd yr economi am rai canrifoedd o dan y Rhufeiniaid.
Chwyldro 1969
Ar y 1af o Fedi 1969 cafwyd coup d'état yn y wlad a daeth Muammar al-Gaddafi i rym ar ôl trechu'r Brenin Idris tra fod y brenin yn Nhwrci yn cael triniaeth meddygol.
Chwyldro 2011

- Prif: Rhyfel Cartref Libia
Yn Chwefror 2011 llifodd ton ar ôl ton o brotestiadau gwleidyddol drwy'r Dwyrain Canol; ffynhonnell y protestiadau hyn oedd Tiwnisia ac yna'r Aifft yn Ionawr 2011 a gwelwyd ymgyrch gref drwy Lybia i gael gwared â Gaddafi a'i ddull unbeniaethol o reoli. Dyw hyn ddim yn syndod o gofio fod y ddwy wlad yma (Tiwnisa a'r Aifft) o fewn tafliad carreg i Lybia (ffiniau dwyreiniol a gorllewinol).
Erbyn 23 Chwefror roedd Gaddafi wedi colli rheolaeth o lawer iawn o drefi'r wlad ac yn ôl nifer o adroddiadau roedd dros fil o bobl wedi marw.
Ar 17 Mawrth pasiwyd "mesur 1973" gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig o 10 pleidlais i 0 gyda Rwsia, Tsieina ac India yn ymatal. Roedd y mesur yn caniatau gwaharddiad hedfan ac i warchod trigolion Lybia "drwy unrhyw ddull angenrheidiol". Deuddydd wedyn roedd Awyrlu Ffrainc wedi ymosod ar 4 o danciau Gaddafi.[1]
Economi
- Prif: Economi Libia
Mae Libia'n wlad ffynnianus sy'n elwa o'r cyfoeth olew a geir yn Niffeithwch Libia a mannau eraill yn ne'r wlad.
Gweler hefyd
- Y Gwanwyn Arabaidd
- Intifada Tiwnisia, Rhagfyr 2010–heddiw
- Gogledd Affrica
- Undeb y Maghreb Arabaidd
- Al Bayda: y bedwaredd dinas fwyaf yn Libia.
Cyfeiriadau
| ||||||||||
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.
