Niger
| Gweriniaeth Niger République du Niger (Ffrangeg) | |
| Arwyddair | Brawdoliaeth, Gwaith, Datblygiad |
|---|---|
| Math | gweriniaeth, gwladwriaeth sofran, gwlad dirgaeedig, gwlad |
| Enwyd ar ôl | Afon Niger |
| Prifddinas | Niamey |
| Poblogaeth | 21,477,348 |
| Sefydlwyd | 18 Rhagfyr 1958 (Datganiad Annibyniaeth, oddi wrth Ffrainc} 3 Awst Diwrnod Annibyniaeth (1960) |
| Anthem | L'Honneur de la Patrie |
| Pennaeth llywodraeth | Ali Lamine Zeine |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, Africa/Niamey |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Hawsa |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | Niger |
| Arwynebedd | 1,267,000 km² |
| Yn ffinio gyda | Tsiad, Libia, Algeria, Mali, Bwrcina Ffaso, Benin, Nigeria, Y Cynghrair Arabaidd |
| Cyfesurynnau | 17°N 10°E |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Cabinet Niger |
| Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Niger |
| Pennaeth y wladwriaeth | Abdourahamane Tiani |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Niger |
| Pennaeth y Llywodraeth | Ali Lamine Zeine |
![]() | |
| Ariannol | |
| Cyfanswm CMC (GDP) | $13.97 biliwn |
| Arian | franc CFA Gorllein Affrica |
| Canran y diwaith | 5 ±1 canran |
| Cyfartaledd plant | 7.599 |
| Mynegai Datblygiad Dynol | 0.4 |
Gwlad dirgaeedig yng ngorllewin Affrica yw Niger (ynganiad: niʒɛʁ, enw swyddogol: Jamhuriyar Nijar sef Gweriniaeth Niger). Mae'n ffinio â Nigeria a Benin yn y de, Mali a Bwrcina Ffaso yn y gorllewin, Algeria a Libia yn y gogledd a Tsiad yn y dwyrain. Rhan o'r Sahara yw gogledd y wlad. Mae Afon Niger yn llifo trwy dde-orllewin y wlad. Niamey yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf.
Daearyddiaeth
Daw enw'r wlad o afon Afon Niger, y drydedd afon hiraf ar gyfandir Affrica. Er hynny, trwy Nigeria a Mali mae rhannau hiraf yr afon yn llifo, gyda rhyw 500 km yn unig yn llifo trwy weriniaeth Niger. Mae 80% o arwynebedd y wlad yn rhan o anialwch y Sahara, llawer ohono yn anialwch Ténéré. Mynydd Idoukal-n-Taghès (2022 m) yw'r uchaf yn y wlad, ym mynyddoedd Aïr. Llosgfynyddoedd ffurfiodd mynyddoedd Aïr, sy'n rhyw fath o is-gangen o Fynyddoedd Ahaggar dros y ffin yn rhan Algeria'r anialwch. Yn y de-orllewin mae dyffryn Afon Niger, lle mae tiroedd mwyaf ffrwythlon y wlad. Mae de-ddwyrain y wlad yn ffinio â Llyn Tsiad.
Hinsawdd drofannol, sych, sydd gan Niger. Anialwch poeth a sych a geir yn y gogledd (ac eithrio gwerddonau â'u coed datys), ond mae tymor glawog i'w gael yn de, gyda hyd at 750mm o law yn flynyddol. Safana yw llawer o'r tir nad yw'n anialwch, gyda choed kaoba, kapok a baobab yn amlwg.
Niamey yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf. Rhai o drefi eraill y wlad yw Zinder, Maradi, Agadez, Tahoua ac Arlit.
Dinasoedd a threfi
Yn ogystal â Niamey (oedd â phoblogaeth 978,029 yn 2012), rhai o ddinasoedd mwya'r wlad yw Maradi (267,249), Zinder (235,605), Tahoua (117,826) ac Agadez (110,497).
Ieithoedd

Hawsa yw iaith fwya'r wlad gydag oddeutu 55% o'r boblogaeth (rhyw 14,500,000 o bobl) yn ei siarad. Ers 2025, Hawsa yw iaith swyddogol y wlad - roedd iaith y coloneiddwyr o Ffrainc wedi parhau'n iaith swyddogol tan hynny.
Ceir sawl iaith arall yn y wlad: Songaieg (gan gynnwys Zarma), Tamasheceg, Ffwlareg, Canwrieg, Arabeg, Gwrmaneg, ieithoedd Tebw a mwy.[angen ffynhonnell]
Crefydd
Yn ôl cyfrifiad 2012, mae 99.3% o boblogaeth Niger yn Fwslemiaid[1]. O'r rheini, mae'r mwyafrif yn dilyn y traddodiad Swnni.[2] Er mai dim ond 0.2%[1] o'r boblogaeth sy'n cyfri ei hunain yn eneidyddwyr, mae elfennau o grefyddau traddodiadol y wlad yn dal i'w gweld mewn rhai ardaloedd yn yr 21g.[3]
Hanes a gwleidyddiaeth
Bu rhannau o'r hyn sydd bellach yn Niger yn Ymerodraeth Kanem-Bornu, Ymerodraeth Mali, Swltaniaeth Agadez, ac Ymerodraeth Songhai dros y canrifoedd. Daeth i ddwylo Ffrainc yn ystod yr Ymgiprys am Affrica, gan ddod yn rhan o Gorllewin Affrica Ffrengig ym 1922.
Enillodd Niger annibyniaeth yn 1960. Haman Diori oedd yr arlywydd o 1960 hyd coup d'état 1974.
Roedd cyfnod o ddemocratiaeth amlbleidiol rhwng 1991 ac 1996; cyn i'r fyddin gymryd drosodd eto rhwng 1996 ac 1999.
Etholwyd Tandja Mamadou yn arlywydd yn 1999. Yn 2009, fe geisiodd newid cyfansoddiad y wlad er mwyn aros yn arlywydd - ataliodd y fyddin ei gynlluniau a chymryd yr awenau nes ethol Mahamadou Issoufou dan drefn newydd yn 2011.
Roedd coup arall yn 2023, a fyddin dan arweiniad y cadfridog Abdourahamane Tchiani sy'n rheoli'r wlad ar hyn o bryd (2026).[angen ffynhonnell]
Gweler hefyd
Dolenni allanol
- Cymorth Cymru i Niger Archifwyd 2008-10-17 yn y Peiriant Wayback Hanes Cymraes sy'n gweithio gyda Médecins Sans Frontières i helpu ysbyty yn Niger
- ↑ 1.0 1.1 "Wayback Machine" (PDF). www.stat-niger.org. Cyrchwyd 2026-06-02.
- ↑ Department Of State. The Office of Electronic Information, Bureau of Public Affairs (2007-09-14). "Niger". 2001-2009.state.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-06-02.
- ↑ "Niger". United States Department of State (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-06-02.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.
