Cycling Weekly
| Enghraifft o: | cylchgrawn |
|---|---|
| Gwlad | y Deyrnas Unedig |
| Iaith | Saesneg |
| Dechrau/Sefydlu | 24 Ionawr 1891 |
| Gwefan | http://www.cyclingweekly.co.uk/, http://cyclingweekly.co.uk |
| Dynodwyr | |
Cylchgrawn seiclo wythnosol Prydeinig ydy Cycling Weekly. Cyhoeddir hi gan IPC Media ac mae hi'n ymdrin â rasio ar y ffordd yn bennaf.
Hanes
Cyhoeddwyd Cycling Weekly gyntaf o dan yr enw byrrach, Cycling, ar 24 Ionawr 1891. Trodd yr enw i Cycling and Moting yn yr 19g pan oedd gyrru ceir - "moting" - yn edrych y debygol o gymryd lle seiclo. Disgynodd y gwerthiant o dan olygyddiaeth H.H. (Harry) England, a gymerodd be gysidrwyd fel y safbwynt traddodiadol tuag at seiclo, gan yr oedd yn gwrthwyneb ail-gyflwyno rasus yn dechrau mewn tyrfa ar y ffyrdd, fel gynigwyd gan y British League of Racing Cyclists. Arweiniodd hyn at ymddangosiad cylchgrawn wythnosol cystadleuol The Bicycle yn yr 1950au yn ogystal â chylchgrawn misol a enwyd yn gyntaf yn Coureur cyn ei ail-enwi i Sporting Cyclist. Cafodd y ddau eu cyfuno gyda Cycling yn y diwedd.
Wrth chwilio am ffyrdd o gynyddu'r gwerthiant yn yr 1950au, cyflwynodd Cycling dudalennau wedi eu neilltuo ar gyfer moped a newidiodd enw'r cylchgrawn i Cycling & Mopeds. Cyflymodd y newid hyn y disgyniant yn y gwerthiant hyd i'r moped cael ei ddisgyn o'r tudalennau ac agorodd y cylchgrawn ei llygaid at ffurfiau eraill o rasio beics ar y ffordd ac ar y trac, cyclo-cross a theithiau seiclo. Digwyddodd hyn wrth i'r golygydd newydd ar y pryd, Alan Gayfer, fynnu. Ymysg y newyddiadurwyr a gyflogwyd yn ystod y cyfnod hwn gan Gayfer, mae Phil Liggett, sylwebwr teledu erbyn hyn a'r awdur, Les Woodland.
Mae'r cylchgrawn wedi newid dwylo sawl gwaith. Cyhoeddwyd hi'n gyntaf gan y Dangerfield Printing Company (1891-1894), yna Temple Press (1895-1964), Go Magazine (1964-1967) a Longacre Press (1967-1970) cyn iddi gael ei chyhoeddi gan ei pherchenog presenno, IPC Magazines (IPC Media erbyn hyn) ers 1970.
Y cyfraniad hiraf-oesol a wnaeth y cylchgrawn tuag at seiclo oedd cychwyn cystadleuaeth British Best All-Rounder (BBAR) ar gyfer treialon amser yn ar 4 Ebrill 1930, gan sefydlu pa seiclwr a gysidrwyd gan y cylchgrawn i fod y gorau yn erbyn y cloc gan weithio allan cyfartaledd cyflymder y reidwyr dros bellteroedd o 50 milltir, 100 milltir a thros 12 awr. Cynigodd wobr i'r tîm buddugol bob blwyddyn ar ffurf tarian.[1]
Yn 1932 cyflwynodd Cycling y Golden Book of Cycling yn ogystal. Mae pob tudalen yn anrhydeddu arwr seiclo. Y cyntaf oedd Frank Southall, a enillodd gystadleuaeth BBAR y flwyddyn honno, ac fe arwyddodd y llyfr o flaen 7,000 o seiclwyr a fynychod y seremoni wobrwyo BBAR yn y Royal Albert Hall, Llundain.[1] Mae'r llyfr yma wedi disgyn allan o ffasiwn ymn y blynyddoedd diweddar.
Y Cylchgrawn Cyfoes
Gadawodd Alan Gayfer Cycling i weithio dros asiantaeth newyddion United Press ar yr ochr arall i Fleet Street, Llundain, lle'r oedd swyddfeydd Cycling ar y pryd. Yno, gallai adrodd ar ei ddiddordeb arall, Paffio. Bu farw o drawiad i'r galon tra'n seiclo yng Nghanada ar ôl iddo ymddeol. Golynwyd Gayfer gan Ken Evans, arweiniodd ei ddiddordeb ef mewn rasio treialon amser pellter byr, at gyflwyniad cystadleuaeth y Campagnolo Trophy ar gyfer rasus dros 25 milltir (40 km), yn gyfochrog i'r British Best All-Rounder. Parhaodd hwn ddwy dymor yn unig cyn cafwyd wared arni gan na chysidrwyd hi yn werth yr ymdrech na'r gost.[1] Ymddiswyddodd Evans er mwyn mynd i weithio dros gwmni cyfanwerthu darnau beic Ron Kitching, a cymerodd Martin Ayres ei le. Golynwyd ef yn ei dro gan Andrew Sutcliffe, a fu'n olygwr cylchgrawn Cycle Trader gynt.
O dan arweiniad Sutcliffe, cymerodd y cylchgrawn fwy o gynnwys darluniadol ymlaen, lleihawyd yr adrodd ar seiclo domestig yn ogystal, yn arbenig pan nad oedd y seiclo yn ymwneud â rasio gan ganolbwyntio yn hytrach ar gystadlu ar y cyfandir. Gadawodd Sutcliffe Cycling i ffurfio cwmni Cabal Communications, a redwyd gan cyn-withwyr o IPC. Cyflwynodd cwmni Cabal gylchgrawn Procycling, mewn cystadleuaeth gyda chylchgrawn misol IPC, Cycle Sport. Golygydd cyntaf y cylchgrawn hwn oedd William Fotheringham, a gyflogwyd gynt gan IPC.
Olynydd Sutcliffe oedd Robert Garbutt, sef y golygydd presennol. Mae aelodau staff o nôd yn cynnwys Sid Saltmarsh - yr is-olygydd o dan Alan Gayfer - a weithiodd dros y News Chronicle a'r BBC gynt; ef oedd yn adrodd y Tour de France pan fu farw'r seiclwr Seisnig, Tom Simpson yn ystod y ras yn 1967. Mae'r cyfranwyr diweddar wedi cynnwys Tony Bell, Michael Hutchinson a Dave Lloyd.
Y cyfrannwr hiraf i'r cylchgrawn oedd Johnny Helms, bu ei gartwnau yn ymddangos yn y cylchgrawn yn reolaidd ers 6 Chwefror 1946.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- (Saesneg) cyclingweekly.co.uk
- (Saesneg) ipcmedia.com Archifwyd 2007-10-10 yn y Peiriant Wayback
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.