Cyhydedd
| Enghraifft o: | great circle, circle of latitude, equator |
|---|---|
![]() | |
| Gwladwriaeth | São Tomé a Príncipe, Gabon, Gweriniaeth y Congo, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Wganda, Cenia, Somalia, Indonesia, Ecwador, Colombia, Brasil |
| Hyd | 40,075 cilometr |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02prc |
| Thesawrws y BNCF | 6306 |
Mewn daearyddiaeth, mae cyhydedd yn llinell ddychmygol, sydd yn mynd o gwmpas y ddaear mewn plaen sy'n berpendiciwlar i echel ei chylchdro. Mae i bob planed sy'n cylchdroi ei gyhydedd ei hun, ond fel arfer, mae "Cyhydedd" yn cyfeirio at linell ar y Ddaear. Gosodir y Cyhydedd yn union rhwng dau begwn y blaned; golyga hyn ei bod yr un pellter o Begwn y Gogledd ag ydyw o Begwn y De. Mae'r Cyhydedd yn rhannu'r ddaear yn ddau; Hemisffer y Gogledd ac Hemisffer y De.

Geodedd Cyhydedd y Ddaear
Diffinnir Cyhydedd y Ddaear o ran ei ledred gan 0° (sero gradd). Mae'n un o bump prif cylch lledred a nodir mewn daearyddiaeth; ceir hefyd y cylchoedd pegynol hyn: (y Cylch Arctig a'r Cylch Antartig) a'r ddau gylch trofannol (Trofan Cancr a Throfan Capricorn).
| Delwedd:Equator monument.jpg | ||
Chwith: Cofeb yn nodi'r Cyhydedd ger tref Pontianak, Indonesia
Y dde: Arwydd ffordd yn nodi'r Cyhydedd ger tref Nanyuki, Cenia | ||
Yn ei symudiad ymddangosiadol yn yr awyr, mae'r haul yn pasio uwchben y Cyhydedd ddwywaith y flwyddyn, yn ystod y cyhydnosau. Am eilad, yn ystod y cyhydnos, mae pelydrau'r haul yn union berpendiciwlar i wyneb y ddaear ar y rhan arbennig honno o'r Cyhydedd.
Mae'r mannau hynny sydd ar y Cyhydedd yn cael y gwawrio a'r machlud haul cyflymaf, gan fod yr haul yn codi ac yn machlud bron yn fertig drwy gydol y flwyddyn. Mae hyd diwrnod (o godiad haul hyd at ei fachlud) ar y Cyhydedd bron yn hafal drwy gydol y flwyddyn ac mae ei hyd oddeutu 14 munud yn hirach na'r nos oherwydd plygiant golau gan yr atmosffer a gan y diffinnir yr union eiliad o wawrio a machlud gan yr eiliad honno pan fo 'ymyl' yr haul (yn hytrach na'i ganol) i'w weld uwchben y gorwel. Mae'r Ddaear yn bolio rhyw ychydig ar y Cyhydedd. Ei ddiametr yw 12,750 cilometr (7,922 mi), on ar y Cyhydedd mae'r diametr oddeutu 43 cilometr (27 mi) greater than at the poles.[1]
Lleolir nifer o ganolfanau gofod ger y Cyhydedd e.e. Canolfan Ofod Guiana yn Kourou, Guyane, gan fod y lleoliadau hyn yn symud yn gynt nag unrhyw ledred arall oherwydd cylchdro'r Ddaear. Golyga hyn fod y rocedi'n defnyddio llai o danwydd, pan gânt eu lansio. Er mwyn gwneud yn fawr o hyn, mae'n rhaid i'r rocedi gael eu lansio i gyfeiriad y dwyrain, y de-ddwyrain neu'r gogledd-ddwyrain.
Gwledydd y mae'r Cyhydedd yn mynd drwyddynt
- Rhestr
- São Tomé a Príncipe – mae'r cyhydedd yn mynd dros ynys fehchan o'r enw Ilhéu das Rolas
- Gabon
- Gweriniaeth y Congo
- Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo
- Wganda
- Cenia
- Somalia
- Maldives – ond efallai yn croesi dim ond un o'r ynysoedd
- Indonesia
- Ynysoedd Gilbert – ond efallai yn croesi dim ond un o'r ynysoedd
- Ynysoedd Phoenix – yn croesi'r ynysoedd ger Ynys Baker
- Line Islands – yn coroesi'r ynysoedd ger Ynys Jarvis
- Ecwador
- Ynysoedd y Galapagos – yn coroesi Ynys Isabela.
- Colombia
- Brasil
Gweler hefyd
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.
