David Cameron
| Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd David Cameron o Chipping Norton PC | |
| |
Ysgrifennydd Tramor
| |
| Cyfnod yn y swydd 13 Tachwedd 2023 – 5 Gorffennaf 2024 | |
| Rhagflaenydd | James Cleverly |
|---|---|
| Olynydd | David Lammy |
| Cyfnod yn y swydd 11 Mai 2010 – 13 Gorffennaf 2016 | |
| Rhagflaenydd | Gordon Brown |
| Olynydd | Theresa May |
| Geni | 9 Hydref 1966 Llundain |
| Etholaeth | Witney |
| Plaid wleidyddol | Ceidwadwol |
| Priod | Samantha Sheffield |
Gwleidydd Seisnig yw David William Donald Cameron, Arglwydd Cameron o Chipping Norton[1] (ganwyd 9 Hydref 1966) sy'n Ysgrifennydd Tramor ers Tachwedd 2023. Cyn hynny bu'n Brif Weinidog y Deyrnas Unedig rhwng 2010 a 2016 ac Arweinydd y Blaid Geidwadol rhwng 2005 a 2016. Roedd Cameron yn AS dros Witney rhwng 2001 a Medi 2016. Mae'n dod o ddinas Llundain, Lloegr.
Mae Cameron yn fab ieuengaf i Ian Donald Cameron (1932-2010), brocer stoc, a'i wraig Mary Fleur (née Mount, ganwyd 1934, ynad heddwch, yn ferch i Syr William Mount, 2il Barwnig). Cafodd ei addysg yng Ngholeg Eton. Astudiodd Cameron Athroniaeth, Gwleidyddiaeth, ac Economeg yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen.
Cyhoeddodd y byddai'n sefyll lawr fel Prif Weinidog ac arweinydd y Blaid Geidwadol ar 24 Mehefin 2016 unwaith i'r blaid ethol arweinydd newydd. Roedd disgwyl i hyn ddigwydd erbyn mis Medi 2016 ond gan mai Theresa May oedd yr unig ymgeisydd ar ôl yn y gystadleuaeth fe'i hetholwyd yn arweinydd newydd ar 11 Gorffennaf 2016. Dyletswydd olaf Cameron oedd cymryd rhan yn sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog ganol ddydd ar 13 Gorffennaf 2016, cyn iddo deithio i Balas Buckingham i gynnig ei ymddiswyddiad i'r Frenhines.
Ym mis Medi 2016, ymddiswyddodd o'i rôl fel Aelod Seneddol gan ddweud nad oedd am "dynnu sylw oddi ar y penderfyniadau pwysig sy'n wynebu fy olynydd yn Stryd Downing a'r llywodraeth".[2]
Dychwelodd i'r Llywodraeth ar 13 Tachwedd 2023 gan ymuno a chabinet Rishi Sunak fel Ysgrifennydd Tramor. Am nad oedd yn aelod seneddol, fe'i ddyrchafwyd i Dy'r Arglwyddi.[3]
Cyfeiriadau
- ↑ "Parliamentary career of Lord Cameron of Chipping Norton". UK Parliament. Cyrchwyd 17 November 2023.
- ↑ David Cameron yn ymddiswyddo o fod yn AS , Golwg360, 11 Medi 2016. Cyrchwyd ar 13 Medi 2016.
- ↑ ""Ffars": Ymateb Plaid Cymru wrth i Rishi Sunak ad-drefnu ei Gabinet". Golwg360. 2023-11-13. Cyrchwyd 2023-11-13.
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol Archifwyd 2006-04-24 yn y Peiriant Wayback
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Shaun Woodward |
Aelod Seneddol dros Witney 2001 – 12 Medi 2016 |
Olynydd: Robert Courts |
| Swyddi gwleidyddol | ||
| Rhagflaenydd: Gordon Brown |
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig 11 Mai 2010 – 13 Gorffennaf 2016 |
Olynydd: Theresa May |
| Swyddi gwleidyddol pleidiol | ||
| Rhagflaenydd: Michael Howard |
Arweinydd y Blaid Geidwadol 6 Rhagfyr 2005 – 11 Gorffennaf 2016 |
Olynydd: Theresa May |
| |||||
| |||||||||||
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.
