2016
20g - 21g - 22g
1960au 1970au 1980au 1990au 2000au - 2010au - 2020au 2030au 2040au 2050au 2060au
2011 2012 2013 2014 2015 - 2016 - 2017 2018 2019 2020 2021
Digwyddiadau
Ionawr
- 28 Ionawr - Cyfundrefn Iechyd y Byd yn cyhoeddi ei bod yn bur debygol y gwelir y Y Feirws Zika yn ymledu drwy'r rhan fwyaf o'r Americas.
Chwefror
- 7 Chwefror – Gogledd Corea yn lansio roced pell-gyrhaeddol i'r gofod, a chafwyd cryn feirniadaeth ar draws y byd.
- 26 Chwefror - Etholiad cyffredinol yn Iwerddon.
Mawrth
- Diawled Caerdydd yn symud i leoliad newydd yn Arena Iâ Cymru.
- 19 Mawrth – Alun Cairns yn cael ei benodi'n Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
- 21 Mawrth – Arlywydd Unol Daleithiau America, Barack Obama, yn ymweld â Cuba.
- 22 Mawrth – Tri ffrwydriad ym Mrwsel, Gwlad Belg yn lladd 32 ac yn anafu dros 259 o bobl. Gwladwriaeth Islamaidd Irac a'r Lefant (ISIL) yn hawlio cyfrifoldeb.
Ebrill
- 3 Ebrill - Cyhoeddi 11.5 miliwn o bapurau cyfrinachol cwmni 'Mossack Fonseca', papurau a elwir yn "Bapurau Panama" gan nodi gwybodaeth am tua 214,000 o gwmnïau hafan treth.
- 6 Ebrill - Sigmundur Davíð Gunnlaugson, Prif Weinidog Gwlad yr Iâ yn ymddiswyddo.
Mai
- 5 Mai - Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016.
- 19 Mai - Hediad 804 cwmni EgyptAir yn syrthio uwch Môr y Canoldir rhwng Paris a Cairo, gan ladd 66 o bobl oedd ar ei bwrdd.
Mehefin
- 1 Mehefin - Agoriad swyddogol 'Prif Dwnnel Gotthard' (Gotthard Base Tunnel'), twnnel hiraf a thyfnaf y byd, i gludo trenau.
- 10 Mehefin - Dechrau Pencampwriaeth UEFA Euro 2016.
- 20 Mehefin - 20 Mehefin 2016, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn llwyddo i ennill Grŵp B, a chyrraedd rownd yr 16 olaf yng nghystadleuaeth Ewro 2016 wedi iddynt guro Rwsia o dair gôl i ddim.
- 23 Mehefin - Cymru a Lloegr yn pleidleisio dros adael y Gymuned Ewropeaidd; gweler: Refferendwm y Deyrnas Unedig.
Gorffennaf
- 4 Gorffennaf - Y chwiliedydd gofod Juno yn cylchdroi o amgylch y blaned Iau.
- 6 Gorffennaf - Portiwgal yn curo Cymru 2-0 yn rownd gyn-derfynol Cystadleuaeth Ewro 2016.
- 13 Gorffennaf - Theresa May yn cael ei phenodi'n arweinydd y Blaid Geidwadol ac felly'n Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.
- 29 Gorffennaf – 6 Awst – Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016 (Gweler isod)
Awst
- 5-21 Awst - Gemau Olympaidd yr Haf 2016, Rio de Janeiro.
- 24 Awst – Daeargryn 6.2 yn taro canol yr Eidal, gan ladd 299 o bobol.
Medi
- 3 Medi - UDA a Tsieina yn arwyddo Cytundeb Amgylchedd y Ddaear, Paris, sef isgytundeb a grewyd yn dilyn Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd 2015 a gynhaliwyd ym Mharis.
- 9 Medi - Llywodraeth Gogledd Corea yn cynnal ei phumed prawf niwclear. Arweinwyr y byd yn condemnio’r weithred, gyda De Corea yn ei galw’n “ddifrifwch maniacal”.
- 30 Medi - Dau baentiad gan Vincent van Gogh gwerth $100 miliwn (Morlun o Scheveningen a Morlun yn Scheveningen a'r Gynulleidfa yn Gadael yr Eglwys Ddiwygiedig yn Nuenen), yn cael eu hadfer ar ôl cael eu dwyn ar 7 Rhagfyr 2002, o Amgueddfa Van Gogh yn Amsterdam.
Hydref
- 8 Hydref - Perfformiad cyntaf o Cantata Memoria gan Syr Karl Jenkins (gyda barddoniaeth gan Mererid Hopwood) yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
- 13 Hydref - Maldives yn cyhoeddi eu penderfyniad i dynnu'n ôl o Gymanwlad Lloegr.
Tachwedd
- 2 Tachwedd - Joanna Penberthy yn cyhoeddi ei bod wedi ei dewis yn Esgob Tyddewi.
- 8 Tachwedd - Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau: Y dyn busnes Donald Trump yn cael ei ethol yn 45ed Arlywydd yr Unol Daleithiau mewn buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn ei wrthwynebydd, y cyn Ysgrifennydd Gwladol Hillary Clinton.
Rhagfyr
- 4 Rhagfyr - Refferendwm cyfansoddiadol yn cael ei gynnal yn yr Eidal, gan arwain at ymddiswyddiad y Prif Weinidog.
- 19 Rhagfyr - Andrei Karlov, llysgennad Rwsia i Dwrci, yn cael ei lofruddio gan heddwas Twrcaidd (nad oedd ar ddyletswydd) mewn arddangosfa gelf yn Ankara.
- 23 Rhagfyr - Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn mabwysiadu Penderfyniad 2334 yn condemnio “aneddiadau Israel yn nhiriogaethau Palestina a feddiannwyd ers 1967”.
Genedigaethau
- 19 Ebrill - Tywysog Alexander o Sweden, wyr Carl Gustaf XVI, brenin Sweden
Marwolaethau
- 5 Ionawr - Pierre Boulez, cyfansoddwr ac arweinydd, 90[1]
- 10 Ionawr - David Bowie, canwr ac cerddor, 69[2]
- 8 Chwefror - John Disley, athletwr, 87[3]
- 16 Chwefror - Jim Pleass, cricedwr (Glamorgan), 92[4]
- 8 Mawrth - George Martin, cynhyrchydd recordiau a cherddor, 90
- 14 Mawrth - Peter Maxwell Davies, cyfansoddwr, 81
- 17 Mawrth - Paul Daniels, consuriwr, 77[5]
- 31 Mawrth
- Zaha Hadid, pensaer, 65
- Ronnie Corbett, actor a digrifwr, 85
- Imre Kertész, awdur, 86
- 10 Ebrill
- Howard Marks, cannabis smuggler, writer and legalisation campaigner, 70 (canser)[6]
- Arglwyddes Woodward (Melinda Rose Woodward), gwraig Syr Tom Jones, 75
- 13 Ebrill
- Gareth Thomas, actor, 71[7]
- Gwyn Thomas, bardd, 79[8]
- 9 Mai - Gareth Gwenlan, television producer, 79[9]
- 2 Gorffennaf
- Michel Rocard, gwleidydd, 85
- Caroline Aherne, actores a digrifwraig, 52
- 21 Gorffennaf - J. O. Roberts, actor, 84[10]
- 31 Gorffennaf - Gwynn ap Gwilym, author, 61[11]
- 1 Awst - Dai Dower, paffiwr, 83[12]
- 24 Medi - Mel Charles, pêl-droediwr a brawd John Charles, 81[13]
- 1 Hydref - Daphne Odjig, arlunydd, 97
- 3 Hydref - Andrew Vicari, arlunydd, 84[14]
- 13 Hydref
- Bhumibol Adulyadej, brenin Gwlad Tai, 88
- Dario Fo, actor, sgriptiwr a dramodydd, 90[15]
- 16 Hydref - Kigeli V, brenin Rwanda, 80
- 18 Hydref
- Gary Sprake, pêl-droediwr, 71[16]
- Huw Jones, esgob, 82[17]
- 21 Hydref - Raine, Iarlles Spencer, llysfam Diana, Tywysoges Cymru, 87
- 22 Hydref - Terry James, cyfansoddwr, 83
- 23 Hydref - Pete Burns, canwr, 57
- 24 Hydref - Bobby Vee, canwr, 73
- 16 Tachwedd - Len Allchurch, pêl-droediwr, 83
- 8 Rhagfyr - Fred Secombe, awdur, 97[18]
- 9 Rhagfyr - Edwin Benson, siaradwr olaf Mandaneg, 85
- 21 Rhagfyr - Deddie Davies, actores, 78[19]
- 22 Rhagfyr - John Gwilliam, chwaraewr rygbi'r undeb, 93[20]
- 27 Rhagfyr - Carrie Fisher, actores, 60
Rhai Cymry a fu farw yn 2016
Rhestr Wicidata:
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Y celfyddydau
Cerddoriaeth
- Karl Jenkins - Cantata Memoria – Er Mwyn y Plant; cyfansoddiad corawl a grëwyd gan Syr Karl Jenkins a'r Prifardd Mererid Hopwood i goffau hanner canmlwyddiant trychineb Aberfan.
Albymau
Eisteddfod Genedlaethol (Sir Fynwy)
- Cadair: Aneirin Karadog
- Coron: Elinor Gwynn
- Medal Ryddiaeth: Eurig Salisbury, Cai
- Gwobr Goffa Daniel Owen: Guto Dafydd, Ymbelydredd
Chwaraeon
Gwobrau
- Gwobrau Chwaraeon Cymru, BBC
- Jade Jones, Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn. Gareth Bale, a ddaeth yn ail, ac Elinor Barker yn y trydydd safle.
- Chris Coleman, Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig
Canlyniadau
- Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2016: Lloegr (10); Cymru (7), Iwerddon (5), yr Alban (4), Ffrainc (4) a'r Eidal (0)
- Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru: Cymru'n cyrraedd rownd gynderfynol cystadleuaeth pêl-droed rhyngwladol am y tro cyntaf erioed; nid oedd Ben Davies nac Aaron Ramsey yn chwarae; Portiwgal 2, Cymru 0.
- C.P.D. Dinas Abertawe yn parhau yn Uwch Gynghrair Lloegr, gydag Alan Curtis yn Rheolwr dros dro ar ddechrau'r flwyddyn ac yna Francesco Guidolin a Bob Bradley yn ei ddilyn; prynnwyd y Clwb gan Gonsortiwm Jason Levien.
Gwobrau Nobel
- Ffiseg: John M. Kosterlitz, Duncan Haldane a David J. Thouless
- Cemeg: Ben Feringa, Jean-Pierre Sauvage a Fraser Stoddart
- Meddygaeth: Yoshinori Ohsumi
- Llenyddiaeth: Bob Dylan
- Economeg: Oliver Hart a Bengt R. Holmström
- Heddwch: Juan Manuel Santos
Cyfeiriadau
- ↑ "Pierre Boulez—obituary". The Telegraph (yn Saesneg). 6 Ionawr 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Ebrill 2016. Cyrchwyd 13 Ebrill 2016.
- ↑ "David Bowie wedi marw yn 69 oed". Golwg360. 11 Ionawr 2016.
- ↑ "John Disley dies aged 87". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-22. Cyrchwyd 2016-12-28.
- ↑ Glamorgan 1948 county championship winning legend Jim Pleass dies aged 92
- ↑ Magician Paul Daniels dies aged 77 (en) , BBC News, 17 Mawrth 2016.
- ↑ 'Mr Nice' Howard Marks dies aged 70
- ↑ Gareth Thomas 1945 - 2016
- ↑ Wales' former national poet Gwyn Thomas dies
- ↑ Only Fools and Horses producer Gareth Gwenlan dies
- ↑ Tributes paid to Anglesey actor J O Roberts who has died
- ↑ Tributes paid to renowned poet and vicar Gwynn ap Gwilym
- ↑ "Dai Dower: Former British flyweight champion dies aged 83". BBC Sport. 1 Awst 2016. Cyrchwyd 1 Awst 2016.
- ↑ "Mel Charles: Ex-Wales, Swansea and Arsenal great dies, aged 81". BBC Sport. 24 Medi 2016. Cyrchwyd 24 Medi 2016.
- ↑ Tributes as Saudi royal artist Andrew Vicari dies at home Wales
- ↑ John Francis Lane (13 Hydref 2016). "Dario Fo obituary". Guardian. Cyrchwyd 8 Awst 2026.
- ↑ Gary Sprake obituary. The Guardian 20 Hydref 2016. Adalwyd 18 Hydref 2018.
- ↑ "Tributes paid to former Dean of Brecon". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-15. Cyrchwyd 2016-12-28.
- ↑ Tributes to Sir Harry Secombe's brother and author Rev Fred Secombe who has died at 98
- ↑ Kathryn Williams, "Stella and The Railway Children actress Deddie Davies dies at the age of 78", Wales Online, 21 Rhagfyr 2016
- ↑ "Former Wales captain John Gwilliam dies, aged 93". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-29. Cyrchwyd 2016-12-28.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.



