2012

20g - 21g - 22g
1960au 1970au 1980au 1990au 2000au - 2010au - 2020au 2030au 2040au 2050au 2060au
2007 2008 2009 2010 2011 - 2012 - 2013 2014 2015 2016 2017


Digwyddiadau

Ionawr

Chwefror

Mawrth

Ebrill

Mai

Mehefin

  • 8-10 Mehefin - Llifogydd mawr yng Ngheredigion.[1] Bu'n rhaid canslo Sioe Amaethyddol Ceredigion.

Gorffennaf

Awst

Medi

Hydref

Tachwedd

Rhagfyr

Genedigaethau

  • 24 Ionawr - Tywysoges Athena o Ddenmarc, merch Tywysog Joachim o Ddenmarc a'i wraig, Tywysoges Marie

Marwolaethau

Y celfyddydau

Llyfrau

Gweler Llenyddiaeth yn 2012

Cerddoriaeth

Albymau

Celf

Eisteddfod Genedlaethol (Bro Morgannwg)

Gwobrau Nobel

Y tywydd yng Nghymru

  • Atgofion o haf 2012 gan y meteorolegydd Les Larsen o Benisarwaun

Dyma ychydig o ansoddeiriau parchus am haf 2012: glawog, cymylog, gwyntog, diflas, undonog, gyda bwrw, haul yn aml ac ambell i daran. Roedd yr haf yn wlypach na hyd yn oed haf 2007 pan gawsom 476 mm o law [tua 19 modfedd]. Eleni daeth 511mm [20 modfedd] i lawr ar y pentref [Penisarwaun]; 243.5mm ym Mehefin, 132.5mm yng Ngorffennaf a 135mm yn Awst, a hynny ar 70 ddyddiau allan o 92. Ar ben hyn oll ni chafwyd llawer o ddyddiau poeth. Yr unig ddiwrnod poeth oedd yr 11eg o Awst pan aeth y tymheredd i fyny i 24.6C. Gyda llaw yn ystod haf 2011, 49 o ddyddiau gyda glaw a gawsom.
Gwnaed yr haf yn fwy llwm oherwydd absenoldeb nifer o greaduriaid: ee. 1. Y fuwch goch gota; 2. sboncyn [sioncyn] y gwair o unrhyw fath; 3. gloynod byw onibai am y gwynion; 4. pry llwyd a'i bigiad distaw. Ar yr ochr orau o'r haf oedd ymweliad y barcut coch wrth yr hen ysgol a gardd yn Nhanycoed, LLanrug yn lloches i ddraenog. A braf oedd gweld llyffant du y dafedennog yn yr ardd acw. Hefyd bu adar y to yn llwyddiannus yn magu teulu yn nho y modurdy. Roedd gwennol y bondo hefyd yn llwyddiannus yn magu teulu ym mondo ty gerllaw.[4]

  • Ebrill 2012 (Data ac argraffiadau Les Larsen, Penisarwaun, Arfon)[5]

Cawsom fis gwlyb, diflas, a gwyntog. Y diwrnod gorau oedd yr un olaf o’r mis pan aeth y tymheredd i fyny i 16.6C (62.F); fel arall isel oedd tymheredd y prynhawnau. Hefyd nid aeth hi’n oer iawn; yr isaf oedd 0.3C ar y 4ydd o’r mis. Yn sicr yr oedd Ebrill yn fis gwlyb iawn gyda 24 ddyddiau efo glaw a chawsom drochiad o 159.5mm [6 modfedd] ohono. Dim ond un Ebrill sydd wedi bod wlybach ers 1984 a hwnnw oedd Ebrill 2005 gyda 179.5 mm. Cofiwch nid yw Ebrill yn fis gwlyb o gwbl; yn 2010 dim ond 14.5mm o law a gafwyd. Ar y 3ydd o’r mis yr oedd eira ar y mynydd tros 3000 tr. ond drannoeth cawsom dywydd stormus gydag eira dros 700tr. Yma bu ychydig o eira, eirlaw a modfedd o law. Ar y mynyddoedd yr oedd hi’n dymhestlog iawn yn peri i’r eira ffurfio lluwchfeydd anferth a bu nifer ohonynt yn llechu yma ac acw hyd at y diwrnod olaf o’r mis ac yna i fis Mai. Gan fy mod yn son am Ebrill, mae’n braf cael enwi rhai o’r blodau a fu’n addurno ymyl ein ffyrdd; bwtsias y gog, llygad Ebrill, botwm crys, blodyn llefrith, suran y coed, dant y llew, blodau’r ddraenen ddu, cywion gwyddau, blodau,r helygen, crinllys, ceiriosen, mefus gwyllt a braidd cyn ei amser, llau’r offeiriad. Yr oeddwn wrth fy modd yn gweld wenci/bronwen yn croesi’r ffordd yn ddiofn wrth ymyl Perthi. Ond y siom o’r mwyaf oedd y ffaith nad yw’r wennol na gwennol y bondo wedi gweld yn dda ddod yma i gyfarch y gwanwyn. Mae’r wennol wedi cyrraedd Ceunant, a’r gog. Mi wn i am un wedi tynnu llun y gog yn ei ardd. Yma rydym wedi colli’r gog, y wennol y gylfinir ac yn eu lle nhw cael yr aderyn swnllyd, y durtur dorchog.”

Tywydd

Crynodeb tywydd Penisarwaun 2012
Mae'r hen drigolion yn cofio gaeafau 1947, 1963 ac 1979 oherwydd y tywydd oer gydag eira a rhew am wythnosau, gyda'r afonydd a'r llynnoedd wedi rhewi. Heb os mi fydd 2012 hefyd yn aros yn cof oherwydd y glaw di-baid. Cawsom 1888mm. a hwnnw'n disgyn arnom ar 242 o ddyddiau o'r flwyddyn. Serch hynny y flwyddyn wlybaf yn y cyfnod 1984-2012 oedd 2000 pan dadlwythodd y cymylau 1959mm.arnom. Fe ddaeth y glaw trwm yn ystod Hydref, Tachwedd a Rhagfyr, ond yn 2012 daeth bron ar hyd y flwyddyn. ...Ac mae y diwrnod gwlybaf yn hysbys i bawb sef yr 22 o Dachwedd pan gwelsom 64mm hynny yw 2.5 modfedd yn dod i lawr ar ein pennau.[6]

Roedd y flwyddyn yn drychinebus i amaethwyr.[1]

Cyfeiriadau

  1. BBC Newyddion
  2. BBC Newyddion, 31 Gorffennaf 2012
  3. "Marina and the Diamonds top the album chart with Electra Heart". BBC News. 7 Mai 2012. Cyrchwyd 8 Mai 2012.
  4. "Data ac argraffiadau Leslie Larsen ym Mwletin Llên Natur rhifyn 56" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-03-21. Cyrchwyd 2019-03-23.
  5. Bwletin Llên Natur rhifyn 52
  6. "Y meteorolegydd Les Larsen ym Mwletin Llên Natur rhifyn 61" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-05-07. Cyrchwyd 2019-05-07.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.