David Samwell
| David Samwell | |
|---|---|
| Ffugenw | Dafydd Ddu Feddyg |
| Ganwyd | 15 Hydref 1751 Cymru |
| Bu farw | 23 Tachwedd 1798 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | llawfeddyg, bardd, naval surgeon, ysgrifennwr |
Meddyg ac awdur o Gymro oedd David Samwell neu Dafydd Samwell (15 Hydref 1751 - 23 Tachwedd 1798), a adnabyddir yn Gymraeg fel Dafydd Ddu Feddyg.
Roedd yn un o wyrion y llenor Edward Samuel, gŵr o Benmorfa yn Edeirnion, a fu'n berson Llangar, Sir Feirionnydd, o 1721 tan 1748. Cafodd ei eni yn Nantglyn, Sir Ddinbych, yn 1751.
Graddiodd yn feddyg ac aeth ar drydedd fordaith y Capten James Cook ar fwrdd y Discovery yn 1776-79. Bu'n dyst i ladd Cook ar un o ynysoedd Hawaii a chyhoeddodd yr hanes yn ei lyfr A Narrative of the Death of Captain James Cook ar ôl dychwelyd. Cadwodd ddyddiadur hefyd, sy'n cael ei ystyried yn waith arloesol ym maes anthropoleg.
Bu gan Samwell ran flaenllaw ym mywyd diwylliannol Cymry Llundain. Ymhlith ei gyhoeddiadau ceir y gerdd 'The Padouca Hunt', sy'n ymwneud â'r traddodiad fod Madog ab Owain Gwynedd wedi sefydlu gwladfa Gymreig yng ngogledd America. Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas y Gwyneddigion ac yn aelod o'r Caradogion hefyd. Ymhlith ei gydnabod oedd Iolo Morganwg a'r Gwallter Mechain ifanc. Cynorthwyodd Iolo Morganwg i sefydlu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain.
Bu farw Samwell yn 1798 a chafodd ei gladdu ym mynwent Eglwys St Andrews, Holborn, yn Llundain, ger Ysgol Gymraeg Llundain.
Llyfryddiaeth
Llyfrau Samwell
- A Narrative of the Death of Captain James Cook (Llundain, 1786; ail-gyhoeddwyd fel Captain Cook and Hawaii yn 1957)
- Some Account of a Voyage to South Seas 1776-1777-1778 (dyddiadur anghyhoeddedig, yn y Llyfrgell Brydeinig)
- The Padouca Hunt (1799). Ysgrifennwyd yn 1791.
Bywgraffiad
- E. G. Bowen, David Samwell (Cyfres Gŵyl Dewi, 1974)
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.