Edward Samuel
| Edward Samuel | |
|---|---|
| Ganwyd | 1674 Penmorfa |
| Bu farw | 8 Ebrill 1748 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | cyfieithydd, bardd |
Bardd a chyfieithydd o eglwyswr o Gymru oedd Edward Samuel neu Edward Samiwel[1] (1674 – 8 Ebrill 1748). Roedd yn fardd medrus ar y mesurau caeth, yn awdur llyfr ar yr Apostolion, ac yn gyfieithydd sawl llyfr crefyddol i'r Gymraeg. Roedd yn daid i David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg), a aeth gyda'r Capten James Cook ar ei fordaith olaf.
Bywgraffiad
Ganed Edward Samuel ym mhentref Penmorfa, Eifionydd. Ar ôl graddio o Goleg Oriel, Rhydychen, dychwelodd i Gymru i fod yn offeiriad gan wasanaethu ym mhlwyfi Betws Gwerful Goch (1702-21) a Llangar yn Edeirnion (1721-48).
Roedd yn berthynas i fam John Williams (Ioan Rhagfyr).
Gwaith llenyddol
Cyfansoddodd nifer o gerddi, yn gywyddau ac englynion a cherddi rhydd, yn cynnwys marwnad i'r bardd Huw Morys. Cyhoeddwyd rhai o'i gerddi yn y flodeugerdd boblogaidd Blodeu-gerdd Cymry (1759).
Ysgrifennodd Bucheddau'r Apostolion a'r Efengylwyr (1704). Cyfieithodd sawl llyfr Cristnogol, yn cynnwys cyfieithiad newydd o Holl Ddyledswydd Dyn (1718) a hefyd Gwirionedd y Grefydd Gristn'nogol (1716). Ceir cryn raen ar y rhyddiaith yn y gweithiau hyn.
Llyfryddiaeth
Cerddi
Ceir un o'i gerddi yn y gyfrol Beirdd y Berwyn (Cyfres y Fil, 1902) ac eraill mewn rhai o'r blodeugerddi cynnar, ond erys y rhan fwyaf mewn llawysgrifau. Ef oedd awdur geiriau'r carol haf "Hinon ha'".[1]
Rhyddiaith
- Bucheddau'r Apostolion a'r Efengylwyr (1704)
- Holl Ddyledswydd Dyn (1718)
- Gwirionedd y Grefydd Gristn'nogol
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Gwynn Williams, W. S. (William Sidney); Jones, T. Gwynn (Thomas Gwynn) (1944). Canu haf = Summer carols : hen garolau Cymreig = old Welsh carols. University of North Carolina at Chapel Hill Music Library. Llangollen, Gwynn Pub. Co.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.