Doctor Who
| Doctor Who | |
|---|---|
Cerdyn teitlau Doctor Who (2018-) | |
| Genre | Drama / Ffuglen wyddonol |
| Crëwyd gan | Sydney Newman C. E. Webber Donald Wilson |
| Cyfansoddwr y thema | Ron Grainer |
| Thema'r dechrau | Cerddoriaeth thema Doctor Who |
| Cyfansoddwr/wyr | Amrywiol (ers 2018, Segun Akinola) |
| Gwlad/gwladwriaeth | Y Deyrnas Unedig |
| Iaith/ieithoedd | Saesneg |
| Nifer cyfresi | 37 |
| Nifer penodau | 871 (hyd Hydref 2022) |
| Cynhyrchiad | |
| Amser rhedeg | 25 mun. (1963–1984, 1986–1989) 45 mun. (1985, 2005–2017) 50 mun. (2018) |
| Darllediad | |
| Sianel wreiddiol | BBC One |
| Darllediad gwreiddiol | Cyfres glasurol: 23 Tachwedd 1963 – 6 Rhagfyr 1989 Ffilm deledu: 12 Mai 1996 Cyfres presennol: 26 Mawrth 2005 – presennol |
| Dolenni allanol | |
| Gwefan swyddogol | |
| Proffil IMDb | |

Rhaglen deledu ffuglen wyddonol ydy Doctor Who ("Doctor Pwy") a gynhyrchir gan y BBC yng Nghymru. Mae'r rhaglen yn ymwneud ag anturiaethau Arglwydd Amser (Time Lord) sy'n dwyn yr enw "The Doctor". Mae'r bod arallfydol hwn, sy'n ymddangos fel bod dynol, yn teithio o gwmpas y gofod mewn llong ofod sy'n ymddangos o'r tu allan fel blwch ffôn heddlu'r 1960au, a elwir y TARDIS (acronym am Time and Relative Dimension in Space). Mae'r TARDIS yn enfawr y tu fewn, a cheisir gwthio ffiniau gwyddoniaeth yn y rhaglen. Gyda'i gynorthwyydd, mae'r Doctor yn wynebu nifer o elynion arallfydol ac yn cynorthwyo pobl gan geisio ateb drwg gyda da. Fel pob Arglwydd Amser, os yw'r Doctor ar fin marw, gall atgyfodi drwy drawsnewid i berson arall, gyda'r un cof ac enaid. Mae'r ddyfais yma'n caniatau parhad y gyfres drwy gastio actorion newydd i'r brif ran.
Rhestrwyd y rhaglen yn y "Guinness World Records" fel y rhaglen ffug wyddonol sydd wedi bod ar y teledu am yr amser hiraf, a hynny drwy'r byd. Erbyn 2022 roedd 15 actor wedi chwarae'r brif rhan fel y Doctor, gyda'r 13eg Doctor wedi ei chwarae gan fenyw am y tro cyntaf.
Y gyfres wreiddiol (1963-1989, 1996)
Ymddangosodd Doctor Who yn gyntaf ar deledu'r BBC am 17:16:20 GMT ar 23 Tachwedd 1963,[1][2] yn dilyn trafodaethau am flwyddyn gron. Y gŵr o Ganada Sydney Newman (a oedd yn Bennaeth Adran Ddrama'r BBC) a gafodd y syniad gwreiddiol ac ef a sgwennodd y ddogfen amlinellol wreiddiol - ar y cyd â'r sgwennwr C. E. Webber. Cyfranodd y canlynol hefyd: Anthony Coburn, David Whitaker, a'r cynhyrchydd cyntaf: Verity Lambert.[3] Roedd y gyfres ar gyfer y teulu cyfan yn wreiddiol,[4] gydag elfennau addysgol gan ddefnyddio 'teithio drwy amser' er mwyn ymchwilio gwahanol adegau hanesyddol ag elfennau gwyddonol.
Ar 31 Gorffennaf 1963 comisiynwyd Terry Nation i sgwennu'r stori gyda'r teitl The Mutants. Yn wreiddiol, dioddefwr oedd y Dalecs wedi i fom niwtron chwythu yn eu byd, ond newidiwyd hyn yn ddiweddarach gan eu gwneud yn fwy bygythiol. Doedd y BBC ddim yn dymuno creaduriaid unllygeidiog arallfydol a gwrthwynebwyd y Dalecs ar y cychwyn. Y Dalecs oedd creaduriaid mwyaf llwyddiannus y gyfres a chafwyd llawer o nwyddau'n cael eu gwerthu wedi'u llunio arnyn nhw.[5]
Y Doctor
Dangoswyd y gyfres wreiddiol o 23 Tachwedd 1963 - 6 Rhagfyr 1989 cyn atgyfodwyd y gyfres yn 2005. Dros y blynyddoedd chwaraewyd y prif gymeriad ('y Doctor') gan nifer o actorion gwahanol:
- 1963-1966: William Hartnell
- 1966-1969: Patrick Troughton
- 1970-1974: Jon Pertwee
- 1974-1981: Tom Baker
- 1982-1984: Peter Davison
- 1984-1986: Colin Baker
- 1987-1989: Sylvester McCoy
- 1996 (ffilm deledu): Paul McGann
- 2005: Christopher Eccleston
- 2005–2010: David Tennant
- 2010–2013: Matt Smith
- 2013-2017: Peter Capaldi
- 2017-2022: Jodie Whittaker
- 2022-2023: David Tennant
- 2023-2025: Ncuti Gatwa[6]
Y gyfres newydd (ers 2005)
Cafodd y gyfres hon ei lansio yn 2005 yn bennaf drwy ymdrechion yr awdur teledu Russell T. Davies. Ffilmiwyd y Doctor Who newydd gan BBC Cymru, yn bennaf yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, a'i cynhyrchu yn Upper Boat Studios, Glan-bad. Yn y tymor cyntaf chwaraewyd rhan y Doctor gan Christopher Eccleston.
Y Prif gymeriadau yn y tymor newydd ers 2005
- Ryan Sinclair - Tosin Cole (2018-)
- Yasmin Khan - Mandip Gill (2018-)
- Graham O'Brien - Bradley Walsh (2018-)
- Y 13eg Doctor - Jodie Whittaker (2018-)
- Bill Potts - Pearl Mackie (2017)
- Nardole - Matt Lucas (2015,2017)
- Y 12fed Doctor - Peter Capaldi (2013-2017)
- "Y Doctor rhyfel" - John Hurt (2013)
- Clara Oswald - Jenna Coleman (2012-2017)
- Y 11fed Doctor - Matt Smith (2010-2013)
- Amy Pond - Karen Gillan (2010-2012)
- Rory Williams - Arthur Darvill (2010-2012)
- River Song - Alex Kingston (2008,2015)
- Y degfed Doctor - David Tennant (2005-2010)
- Donna Noble - Catherine Tate (2006, 2008-2010)
- Wilfred Mott - Bernard Cribbins (2007-2010)
- Martha Jones - Freema Agyeman (2007-2010)
- Rose Tyler - Billie Piper (2005-2010)
- Mickey Smith - Noel Clarke (2005-2010)
- Jackie Tyler - Camille Coduri (2005-2010)
- Y nawfed Doctor - Christopher Eccleston (2005)
Nofelau
Mae nifer o gyfresi o nofelau wedi cael eu rhyddhau yn seiliedig ar y gyfres:
- Nofelau Target - nofelau yn seiliedig ar anturiaethau o'r gyfres wreiddiol.
- Nofelau New Adventures Virgin - straeon newydd yn parhau hanes y Seithfed Doctor wedi diwedd y gyfres wreiddiol.
- Nofelau Missing Adventures Virgin - straeon newydd ar gyfer y chwe Doctor cyntaf.
- Nofelau Eighth Doctor Adventures y BBC - straeon newydd yn parhau hanes yr wythfed Doctor ar ôl y Ffilm Deledu.
- Nofelau Past Doctor Adventures y BBC - straeon newydd ar gyfer y seithfed Doctor cyntaf.
- Nofelau New Series Adventures y BBC - straeon newydd ar gyfer y nawfed Doctor (yn 2005) a'r degfed Doctor (o 2006 ymlaen) fel a welir yn y gyfres newydd.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Howe, Stammers, Walker (1994), tud. 54
- ↑ "An Unearthly Child". BBC. 16 Awst 2012.
- ↑ Howe, Stammers, Walker (1994), tud. 157–230 ("Production Diary")
- ↑ Howe, Stammers, Walker (1992), tud. 3.
- ↑ Steve Tribe, James Goss Dr Who: The Dalek Handbook BBC Books Random House 2011 ISBN 978-1-84990-232-8 Pg9
- ↑ "Doctor Who: Ncuti Gatwa leaves show in shock regeneration". BBC News (yn Saesneg). 2025-05-31. Cyrchwyd 2025-05-31.
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.