Elizabeth Griffith

Elizabeth Griffith
Ganwyd11 Hydref 1727 Edit this on Wikidata
Sir Forgannwg Edit this on Wikidata
Bu farw5 Ionawr 1793 Edit this on Wikidata
Cill Dara Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon, Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor llwyfan, ysgrifennwr, awdur ysgrifau, dramodydd, actor Edit this on Wikidata

Awdur, llenor ac actores oedd Elizabeth Griffith (née Griffith) (11 Hydref 17275 Ionawr 1793), a enwyd weithiau yn Elizabeth Griffiths.[1] 

Bywgraffiad

Ganwyd Elizabeth Griffith ym Morgannwg, yn ferch i reolwr Theatr Dulyn, Thomas Griffith a'i wraig Jane Foxcroft Griffith ar 11 Hydref 1727.[2] Yn ogystal â rhoi iddi fynediad i theatr y byd, addysgwyd Elizabeth mewn Ffrangeg a llenyddiaeth Saesneg. Bu ei thad farw yn 1744, a syrthiodd y teulu i dlodi.

Ar 13 Hydref 1749 y perfformiodd ar lwyfan am y tro cyntaf, pan chwaraeodd ran Juliet gyda Thomas Sheridan yn actio rhan Romeo. Arbenigodd mewn trasiediau e.e. Jane Lan yn The Tragedy of Jane Shore gan Nicholas Rowe a Cordelia yn King Lear.

Cyfarfu â'i darpar ŵr Richard Griffith, yn 1746. Ar 12 Mai 1751, priododd y ddau yn y dirgel a ganwyd dau o blant iddynt: Catherine a Richard.

Seiliwyd ei gwaith llenyddol cyntaf ar eu partneriaeth pum mlynedd, a chyhoeddwyd A Series of Genuine Letters Between Henry and Frances mewn chwe chyfrol rhwng 1757 a 1770. Mae'r llythyrau hyn yn cynnwys llawer o gyfeiriadau at "llenyddol ac athronyddol bynciau o ddiddordeb i'r ddwy ochr, fel llythyrau Jonathan Swift ac Alexander Pope neu Swyddfeydd Cicero".[3] Daeth Letters between Henry and Frances yn llwyddiant ar unwaith.

Benthyciodd Richard swm mawr o arian i ddatblygu  ffatri gwneud lliain ond aeth yr hwch drwy'r siop yn 1756. Yn ystod y cyfnod hwn, a tra roedd Richard yn osgoi dyledwyr y llys, incwm Griffith, drwy ysgrifennu oedd yn cynnal y teulu. Parhaodd ei gyrfa actio yn Covent Garden, yn Llundain, o 1753 i 1755,[4] er mai mân gymeriadau oedd yn eu hactio, fel arfer.

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

  1. Bell's British theatre: consisting of the most esteemed English plays, Volume 30
  2. Jones, G., (1959). GRIFFITH, ELIZABETH (1727 - 1793), awdur. Bywgraffiadur Cymru. Adalwyd 11 Hydref 2025, o [1]
  3. Staves, Susan.
  4. Napier, Elizabeth R. "Elizabeth Griffith."

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.