Jonathan Swift
| Jonathan Swift | |
|---|---|
| Ffugenw | Isaac Bickerstaff, Lemuel Gulliver, M. B. Drapier, Simon Wagstaff |
| Ganwyd | 30 Tachwedd 1667 Dulyn |
| Bu farw | 19 Hydref 1745 Dulyn |
| Man preswyl | Whitehaven |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Iwerddon |
| Addysg | Doethur mewn Diwinyddiaeth |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | bardd, nofelydd, dychanwr, athronydd, amddiffynnwr hawliau dynol, pamffledwr, offeiriad Anglicanaidd, ysgrifennwr, awdur ffuglen wyddonol, awdur ysgrifau, gohebydd gyda'i farn annibynnol, awdur plant, rhyddieithwr, person cyhoeddus, satirical novelist |
| Adnabyddus am | Gulliver's Travels, A Modest Proposal, A Tale of a Tub |
| Arddull | dychan, Pritça, pamffled, traethawd |
| Plaid Wleidyddol | Tori |
| Tad | Jonathan Swift |
| Mam | Abigail Erick |
| Partner | Esther Vanhomrigh |
| llofnod | |
Awdur o'r Iwerddon oedd Jonathan Swift (30 Tachwedd 1667 – 19 Hydref 1745), a aned yn Nulyn.
Er iddo gael ei eni yn Nulyn ac iddo rannu ei amser rhwng y ddinas honno a Llundain, roedd rhieni Swift yn Saeson o Swydd Efrog ac fe'i hawlir weithiau fel awdur gan y genedl honno.
Cafodd Swift ei addysg yng Ngholeg y Drindod, Dulyn. Yn sgîl yr adwaith yn Iwerddon i Chwyldro 1688 aeth i Lundain lle daeth yn ysgrifennydd i Sir William Temple. Yn nghartref Temple cyfarfu Swift â "Stella" (Hester Johnson). Yno hefyd yr ysgrifennodd ei ddychan mwyaf gwreiddiol, A Tale of a Tub (1704).
Fe'i ordeiniwyd yn 1694 a rhannodd ei amser rhwng gofalu am ei ystad yn Iwerddon a mynychu siopa coffi a chylchoedd llenyddol Llundain. Yn 1713 cafodd ei apwyntio'n ddeon eglwys St Padrig, Dulyn. Yn 1726 cyhoeddodd ei lyfr enwocaf Gulliver's Travels, dychan ar wleidyddiaeth a syniadaeth ei ddydd yn rhith mordaith ffantasïol i wledydd pell neu ddychmygol. Bu farw yn 1745.
Llyfryddiaeth
- A Tale of a Tub (1704)
- Battle of the Books
- Journal to Stella (1710)
- Gulliver's Travels (1726)
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.