| Enghraifft o: | gwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol, gwefan, cyfryngau cymdeithasol, user-generated content platform, cymuned arlein, very large online platform, for-profit corporation |
|---|---|
| Crëwr | Mark Zuckerberg |
| Awdur | Mark Zuckerberg, Eduardo Saverin, Dustin Moskovitz, Chris Hughes |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Iaith | Saesneg, Tsieineeg Traddodiadol, Tsieineeg Syml, Japaneg |
| Dechrau/Sefydlu | 4 Chwefror 2004 |
| Perchennog | Meta Platforms |
| Gweithredwr | Meta Platforms |
| Sylfaenydd | Mark Zuckerberg, Eduardo Saverin, Dustin Moskovitz, Chris Hughes |
| Gweithwyr | 77,986 |
| Gwefan | https://www.facebook.com |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02y1vz |
Gwefan rwydweithio cymdeithasol yw Facebook. Yn anffurfiol, defnyddir yr enw Gweplyfr arno yn y Gymraeg.[1] Mae'n un o wasanaethau cwmni Meta platforms o Unol Daleithiau America, sydd hefyd yn berchen ar WhatsApp ac Instagram. Ddiwedd 2023, roedd 3.07 biliwn o ddefnyddwyr, gyda 2.11 biliwn o'r rheini'n ei ddefnyddio bob dydd, a hynny am 31 munud ar gyfartaledd.[2]
Hanes
Pan lansiwyd Facebook yn 2004 gan Mark Zuckerberg, roedd aelodaeth wedi ei gyfyngu i fyfyrwyr Prifysgol Harvard, ac yna fe ehangwyd i sawl prifysgol arall yn yr Unol Daleithiau.[3] Yn raddol ehangwyd yr aelodaeth i unrhyw un oedd â chyfeiriad e-bost sefydliad addysgol (.edu, .ac.uk, ac ati) ar draws y byd, ac yn 2006 agorwyd y wefan i unrhyw berson. Mae'r defnyddwyr yn creu pwll o Ffrindiau ac yn danfon gwybodaeth a negeseuon at ei gilydd neu eu gosod ar eu tudalennau. Yn y dyddiau cynnar hynny, roedd yn cystadlu â gwasanaethau eraill megis Bebo a MySpace.
Ym Medi 2012, roedd gan Facebook dros biliwn o ddefnyddwyr,[4] a chredir bod 8.7% o'r rheiny yn rhai ffug.[5]
Achos llys
Yn 2007 aed a Mark Zuckerberg i'r llys gan gwmni ConnectU.com gan honni ei fod wedi dwyn eu syniad nhw am y wefan, ac wedi oedi datblygiad eu gwefan nhw'n fwriadol wrth weithio iddynt yn 2003.[6]
Nodweddion
- Mae'n rhaid cofrestru â Facebook cyn cael mynediad i'r wefan.
- Gellir dewis ymuno â rhwydweithiau a seilir ar leoliad daearyddol (gwladwriaeth, gwlad neu ddinas), sefydliad addysg neu gyflogwr.
Ieithoedd Facebook
Yn 2008 fel rhan o ddatblygiad Facebook ychwanegwyd rhyngwyneb amlieithog o ddewis y defnyddiwr. Ymhlith yr ieithoedd y gellir eu defnyddio mae'r canlynol:
- Cymraeg
- Saesneg
- Sbaeneg
- Catalaneg
- Norwyeg
- Almaeneg
- Tsieceg
- Tsieinëeg
- Daneg
- Ffinneg
- Eidaleg
- Iseldireg
- Pwyleg
- Rwsieg
- Swedeg
- Tyrceg
- Portiwgaleg (Brasil)
- Siapaneg
- Coreg
Preifatrwydd a diogelwch
Cafwyd sawl cwyn am ddiffyg preifatrwydd ar Facebook. Yn 2010, datgelwyd fod nifer o raglenni fel gemau ar Facebook yn hel gwybodaeth bersonol a bod rhai'n eu pasio ymlaen (neu eu gwerthu) i gwmnïau eraill. Roedd hyn yn digwydd hyd yn oed ar ôl i ddefnyddwyr Facebook ddewis lefel diogelwch gwybodaeth uchaf posib. Roedd y wybodaeth a "ffermiwyd" felly'n cynnwys enwau go iawn, cyfeiriadau a gwybodaeth bersonol arall. Ym mis Hydref 2010, ar ôl wynebu bygythiad o gael achos llys yn eu herbyn yn yr Unol Daleithiau, mynnodd Facebook eu bod wedi cymryd camau i atal hynny.[7]
Cyfeiriadau
- ↑ "Gweplyfr y flwyddyn".
- ↑ "53 Key Facebook Statistics for Business Owners in 2025 - Shopify - Shopify". Shopify (yn Saesneg). Cyrchwyd 2026-02-21.
- ↑ Carlson, Nicholas (5 Mawrth 2010). "At Last – The Full Story Of How Facebook Was Founded". Business Insider.
- ↑ "Facebook Tops Billion-User Mark". The Wall Street Journal. New York. 4 Hydref 2012. Cyrchwyd 4 Hydref 2012.
- ↑ "Facebook: About 83 million accounts are fake". USA Today. Cyrchwyd 4 Awst 2012.
- ↑ (Saesneg) Facebook site faces fraud claim.
- ↑ "Facebook applications raise new privacy concerns again" Archifwyd 2010-11-19 yn y Peiriant Wayback, ar wefan European Digital Rights, 20.10.2010.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.