Instagram

Instagram
Enghraifft o:gwasanaeth rhwydweithio cymdeithasol Edit this on Wikidata
CrëwrKevin Systrom, Mike Krieger Edit this on Wikidata
Iaithieithoedd lluosog Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi6 Hydref 2010 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu6 Hydref 2010 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintdan hawlfraint Edit this on Wikidata
GweithredwrMeta Platforms Edit this on Wikidata
SylfaenyddKevin Systrom, Mike Krieger Edit this on Wikidata
PencadlysSan Francisco Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
DosbarthyddMicrosoft Store Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.instagram.com/ Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Instagram (a dalfyrrir yn gyffredin i IG neu Insta ) [1] yn wasanaeth rhwydweithio cymdeithasol Americanaidd sydd yn galluogi ei ddefnyddwyr i rannu lluniau a fideos.

Mae'r gwasanaeth hwn yn eiddo i Facebook ac fe'i grewyd gan Kevin Systrom a Mike Krieger. Lansiwyd yn wreiddiol ar iOS ym mis Hydref 2010. Cyhoeddwyd y fersiwn Android ym mis Ebrill 2012, ac yna i ddilyn yn Nhachwedd 2012 cyhoeddwyd rhyngwyneb gwe â nodweddion cyfyngedig. Ym mis Mehefin 2014, daeth yr ap Fire OS, ac yna ap ar gyfer Windows 10 ym mis Hydref 2016. Mae'r ap yn caniatáu i ddefnyddwyr uwchlwytho cyfryngau y gellir eu golygu â hidlwyr a'u trefnu gan ddefnyddio hashnodau a thagio daearyddol. Gellir rhannu postiau yn gyhoeddus neu â dilynwyr sydd wedi eu cymeradwyo eisoes. Gall defnyddwyr bori cynnwys defnyddwyr eraill drwy ddefnyddio tagiau a lleoliadau a gweld cynnwys poblogaidd. Gall defnyddwyr hoffi lluniau a dilyn defnyddwyr eraill i ychwanegu cynnwys i'w ffrwd. Ymddengys fod y nodwedd hwn wedi dod i ben fis Medi 2020.

Yn wreiddiol, roedd Instagram yn adnabyddus am y nodwedd o fframio lluniau mewn cymhareb agwedd sgwar (1:1) yn unig gyda 640 picsel i gyd-fynd â lled sgrin iPhone ar y pryd. Yn 2015 cafodd y cyfyngiadau eu llacio, gan gynyddu swm y picseli i 1080. Ychwanegodd y gwasanaeth nodwedd anfon negeseuon yn ogystal â'r gallu i gynnwys nifer o lluniau o fideos mewn un post. Ychwanegwyd nodwedd Storiau - yn debyg iawn i'w brif wrthwynebydd sef Snapchat - sydd yn caniatáu i ddefnyddwyr bostio lluniau a fideos i'w ffrwd. Mae bob un post ar gael i eraill am 24 awr. Ym mis Ionawr 2019 cyfrifwyd bod y nodwedd Storiau yn cael ei ddefnyddio gan 500 miliwn o ddefnyddwyr yn ddyddiol.

Hanes

Ar ôl ei lansio yn 2010, daeth Instagram yn gynyddol boblogaidd, gyda miliwn o ddefnyddwyr wedi'u cofrestru o fewn dau fis, 10 miliwn mewn blwyddyn, a 1 biliwn ym Mehefin 2018. Yn Ebrill 2012, prynodd Facebook y gwasanaeth am oddeutu US $1 biliwn o arian parod a stoc. O fis Hydref 2015, roedd dros 40 biliwn o luniau wedi'u huwchlwytho. Er iddo gael ei ganmol am ei ddylanwad, mae Instagram wedi bod yn destun beirniadaeth, yn fwyaf arbennig am newidiadau polisi a rhyngwyneb, honiadau o sensoriaeth, a chynnwys anghyfreithlon neu amhriodol a uwchlwythwyd gan ddefnyddwyr.

Datblygwyd Instagram yn y lle cyntaf yn San Francisco fel Burbn, ap nodi lleoliad symudol a grëwyd gan Kevin Systrom a Mike Krieger.[2] Gan sylweddoli bod Burbn yn rhy debyg i Foursquare, canolbwyntiodd Systrom a Krieger eu ap ar rannu lluniau, a oedd wedi dod yn nodwedd boblogaidd ymhlith defnyddwyr Burbn.[3] Fe wnaethant ailenwi ap Instagram gan ddefnyddio cyfuniad o'r geiriau "instant camera" a "telegram".

Cyfeiriadau

  1. Edwards, Erica B.; Esposito, Jennifer (2019). "Reading social media intersectionally". Intersectional Analysis as a Method to Analyze Popular Culture: Clarity in the Matrix. Futures of Data Analysis in Qualitative Research. Abingdon: Routledge. ISBN 9780429557002. Cyrchwyd 7 Mai 2020. Instagram (IG) is a photo sharing app created in October of 2010 allowing users to share photos and videos.
  2. Lagorio, Christine (27 Mehefin 2011). "Kevin Systrom and Mike Krieger, Founders of Instagram". Inc. Cyrchwyd 4 Hydref 2011.
  3. Sengupta, Somini; Perlroth, Nicole; Wortham, Jenna (13 Ebrill 2012). "Behind Instagram's Success, Networking the Old Way". New York Times. Cyrchwyd 12 Ebrill 2017.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.