Hadith
| Enghraifft o: | disgyblaeth academaidd, grŵp o weithiau |
|---|---|
| Math | gwaith ysgrifenedig |
| Enw brodorol | حديث |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03kvm |
| Quora | Hadith |
|
Rhan o gyfres ar |
|---|
| Arferion |
|
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
| Sunni · Shi'a |
|
Astudiaethau Islamig · Celf |
|
Islam a chrefyddau eraill |
| Cristnogaeth · Iddewiaeth |
Ystyr y term hadith (Arabeg: حديث, ḥadīṯ; lluosog ʾaḥādīṯ أحاديث) yw dywediad llafar gan Mohamed, proffwyd Islam, neu un o'r gweithiau sy'n cynnwys casgliadau o'r dywediadau hynny a thraddodiadau eraill am Fohamed a'i gydymdeithion, a ystyrir gan Fwslemiaid fel canllawiau ynglŷn â bywyd personol pob Mwslim a chymuned yr Umma. Maent yn rhan o'r hyn a elwir yn "Draddodiad y Proffwyd" gan Fwslimiaid: dydyn nhw ddim yn rhan o'r Coran ei hun.
Ceir sawl casgliad o ddywediadau a thraddodiadau a elwir yn hadithau. Mae ei awdurdod yn y byd Islamaidd yn amrywio. Mae'r hadithau cynharaf yn rhai y credir iddynt gael eu casglu o fewn cenhedlaeth neu ddwy ar ôl marwolaeth Mohamed tra bod y rhai mwy diweddar yn dyddio o'r 9fed neu'r 10g. Mae graddfa eu derbyniaeth gan Fwslemiaid yn amrywio hefyd. Yn achos yr hadithau mwy diweddar, er enghraifft, mae rhai yn rhan o draddodiad y Mwslemiaid Sunni ac eraill yn perthyn i draddodiad y Shia neu enwadau eraill.
Hanes
Cafodd traddodiadau am fywyd Mohamed a hanes cynnar Islam eu trosglwyddo ar lafar am dros gan mlynedd ar ôl marwolaeth y proffwyd yn 632 OC.
Dywed haneswyr Mwslemaidd mai'r Califf Uthman (y trydydd khalifa, neu olynydd ysbrydol Mohamed), oedd y cyntaf i annog y Mwslemiaid i roi'r Coran ar glawr mewn ffurf safonol, ac i gofnodi'r hadith. Ond lladdwyd Uthman gan wrthryfelwyr yn 656.
Mae barn haneswyr, o fewn a'r tu allan i Islam, yn rhanedig am yr hyn a ddigwyddodd nesaf. Mae rhai yn credu fod llawer o'r hadithau yn perthyn i'r 7fed a'r 8g ond mae eraill o'r farn mai traddodiad llafar oedd yn gyfrifol am y trosglwyddiad, yn bennaf neu'n gyfangwbl. Does dim hadith ysgrifenedig o'r cyfnod hwnnw wedi goroesi.
Roedd ysgolheigion y cyfnod Abbasid yn gorfod wynebu'r ffaith fod y corff mawr o hadithau yn cynnwys tradoddiadau amrywiol iawn gyda gwahaniaethau mawr mewn rhai ohonynt. Roedd angen gosod safonau a phenderfynu pa hadithau oedd yn ddilys a gwahaniaethu rhwng y rhai y gellid eu hystyried yn perthyn i gyfnod Mohamed a'i ddilynwyr a'r lleill, diweddarach, oedd yn aml yn cefnogi barn enwadol neu wleidyddol ar faterion sy'n ganolog i Islam. Ar ddechrau'r 7g dechreuodd trosglwyddwyr yr hadith ymchwilio ffynhonnell y dywediad. Dyma gychwyn y syniad o Isnad, sef 'dilysrwydd yr hadith'. Credir i'r casgliadau cynharaf sydd ar glawr heddiw gael eu hysgrifennu yn yr 8g.
Prif gasgliadau
Sunni
Ceir chwe phrif gasgliad o hadithau a ystyrir yn hollol ddilys yn y traddodiad Sunni; cyfeirir atynt fel 'y chwe sahîh' (al-sihah al-sitta). Y ddau gyda'r awdurdod mwyaf yw:
- Sahîh Al-Bukhârî (810-870).
- Sahîh Muslim ben Al-Hadjâdj Al-Qushayrî (819-875), neu'r Musnad as-Sahîh.
Y sahih eraill yw:
- Casgliad Abû Dawud (817-889), sef y Kitâb as-Sunnan.
- Casgliad Ibn Majah (824-887), sef Sunan Ibn Majah.
- Casgliad At-Tirmidhi (824-893), sef Sunan At-Tirmidhi.
- Casgliad Al-Nasa'i (830-916).
Ceir hefyd:
- Casgliad Hammam bin Munabbih, al Sahifa as-Sahihah, cynnar ond anghyflawn.
- Casgliad Malik Ibn Anas (712-795), sefydlwr yr ysgol Malekite, sef Kitab al-Muwatta.
- Casgliad Ahmad ibn Hanbal Musnâd, sefydlwr yr ysgol Hanbalite (780-855).
- Y Mishkat Shareef.
Shia
Ceir sawl casgliad o haithau Shia. Y pwysicaf yw:
- Casgliad Ya'qub al-Kolayni (m. 939).
- Casgliad Saduq Ibn Babuyeh (m. 991).
- Casgliad Al-Hasan at-Tusi (m. 1068).
Dolenni allanol
- (Saesneg) Translation of Sahih Muslim Archifwyd 2008-12-01 yn y Peiriant Wayback, Prifysgol De Califfornia, Compendium of Muslim Texts.
- (Saesneg) Translation of Sahih Bukhari Archifwyd 2009-01-08 yn y Peiriant Wayback, Prifysgol De Califfornia, Compendium of Muslim Texts.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.