Howard Winstone
| Howard Winstone | |
|---|---|
| Ganwyd | 15 Ebrill 1939 Merthyr Tudful |
| Bu farw | 30 Medi 2000 Merthyr Tudful |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | paffiwr |
| Gwobr/au | MBE, WBC World Featherweight Champion |
| Chwaraeon | |
| Gwlad chwaraeon | Cymru |
Paffiwr o Gymru fu'n bencampwr pwysau plu y byd oedd Howard Winstone (15 Ebrill 1939 - 30 Medi 2000).
Ganed Winstone ym Merthyr Tudful. Wedi iddo ennill medal aur yng Ngemau'r Gymanwlad yng Nghaerdydd yn 1958, daeth yn baffiwr pwysau plu proffesiynol. Eddie Thomas oedd ei reolwr. Enillodd bob un o'i 34 gornest gyntaf, gan ddod yn bencampwr Prydain yn 1961, ac wedyn yn bencampwr Ewrop. Methodd yn ei dair ymgais gyntaf i ddod yn bencampwr y byd; cafodd ei guro dair gwaith gan y pencampwr Vicente Saldivar, ond ar y pedwaredd cynnig gorchfygodd Mitsunori Seki o Japan ym mis Mehefin 1968. Collodd ei deitl i Jose Legra mewn gornest ym Mhorthcawl ychydig fisoedd wedyn, a chyhoeddodd ei ymddeoliad.
Enwyd ef fel Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru yn 1963. Yn 2005, curodd Owen Money, Richard Trevithick, Joseph Parry a'r Arglwyddes Charlotte Guest am y teitl "Dinesydd Mwyaf Merthyr Tudful" mewn pleidlais gyhoeddus.
Gweler hefyd
- Pencampwyr bocsio y byd o Gymru
- Reaching for the Stars gan Brian Hughes; cyhoeddwyd 2009
| Gwobrau | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Dai Rees |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 1958 |
Olynydd: Graham Moore |
| Rhagflaenydd: Ivor Allchurch |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 1963 |
Olynydd: Lynn Davies |
| Rhagflaenydd: Lynn Davies |
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru 1967 |
Olynydd: Martyn Woodroffe |
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.