Leeds

Leeds
Mathdinas, ardal ddi-blwyf, dinas fawr, tref goleg Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Leeds
Poblogaeth536,280 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Brașov, Siegen, Lille, Dortmund, Brno, Colombo, Louisville Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd551.7 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr51 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Aire, Leeds and Liverpool Canal, Meanwood Beck Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.7975°N 1.5436°W Edit this on Wikidata
Cod OSSE297338 Edit this on Wikidata
Map

Dinas yng Ngorllewin Swydd Efrog, Swydd Efrog a Humber, Lloegr, yw Leeds.[1] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Dinas Leeds.

Daw'r enw o'r enw ar fforest yn nheyrnas Elfed, sef Loidis. Saif ar lan Afon Aire yng Ngorllewin Swydd Efrog gyda chamlesi hanesyddol yn ei chysylltu â Lerpwl a Goole. Sefydlwyd Prifysgol Leeds yno yn 1904.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Leeds boblogaeth o 474,632.[2]

Hanes

Yn yr Oesoedd Canol cynnar roedd teyrnas Elfed - a gyfeirir yn aml fel Elmet - yn gysylltiedig â'r rhan yma o Swydd Efrog. Teyrnas Frythonig ôl-Rufeinig oedd Elmet. Nid oes sicrwydd am ei ffiniau, ond credir fod Afon Sheaf yn ffin iddi yn y de, ac Afon Wharfe yn y dwyrain. Yn y gogledd roedd yn ffinio ar Deira ac yn y de ar Mersia.

Ymosodwyd ar Elmet gan Northumbria yn hydref 616 neu 626. yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, ceir sôn am Edwin, brenin Northumbria "occupauit Elmet, et expulit Cretic, regem illius regionis" ("meddiannodd Elmet ac alltudiodd Certic, brenin y wlad honno").

Canol dref Leeds
Bridgewater Place

Cedwir yr enw mewn nifer o enwau lleoedd yn y cylch, megis Barwick-in-Elmet a Sherburn-in-Elmet. Gelwir yr etholaeth seneddol hon hefyd yn "Elmet".

Mae'r deyrnas wedi cael ei choffau gan nifer o feirdd o Gymru o'r 6g hyd y presennol.

Roedd y bardd Ted Hughes hefyd yn ymwybodol iawn o etifediaeth Frythoneg ei sir enedigol a chyhoeddodd lyfr o gerddi a ffotograffiau o'r enw "Remains of Elmet" hefo Fay Godwin ym 1979. Ail-gyhoeddwyd y llyfr ym 1994 gan Faber and Faber dan yr enw "Elmet".

Mae'r ddinas hefyd yn enwog iawn am ei thim pêl-droed fu'n hynod llwyddiannus yn y 60au a'r 70au ac yn enillwyr cyson yn haen uchaf cynghreiriau Lloegr ac yn y cwpannau Ewropeaidd o dan arweiniaeth Don Revie - bu Terry Yorath cyn gapten a rheolwr Cymru yn rhan allweddol o dim a gynhwysai Billy Bremner, Joe Jordan, Peter Lorimer ac eraill. Cafodd y cyfnod cythrublys a ddilynodd ymadawiad Revie pan ddaeth Brian Clough i reoli'r time ei goffau yn llyfr enwog David Peace - 'The Damned United' a wnaethpwyd yn ffilm gyda'r Cymro Michael Sheen yn actio Clough. Bellach mae Leeds United yn chwarae ym mhencampwriaeth Lloegr - sel ail reng y cynghreiriau.

Mae ar y ffordd Ewropeaidd E22.

Adeiladau a chofadeiladau

  • Abaty Kirkstall
  • Adeilad Lumiere
  • Marchnad Kirkgate
  • Neuadd y Dref
  • Neuadd Lotherton
  • Plas Bridgewater ("Y Dalek")
  • Y gyfnewidfa ŷd, sydd bellach yn llawn siopau bach a gweithdai crefft.

Enwogion

Gefeilldrefi

Dinaswedd

Golygfa o dinas Leeds
Golygfa o dinas Leeds

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. British Place Names; adalwyd 2 Awst 2020
  2. City Population; adalwyd 2 Awst 2020
  3. ""Leeds - Brno partnership"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-10. Cyrchwyd 2009-08-08.
  4. "International relations"
  5. "Leeds - Dortmund partnership"
  6. "Leeds - Durban partnership"
  7. ""Leeds - Hangzhou partnership"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-11. Cyrchwyd 2009-08-08.
  8. ""Leeds - Lille partnership". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-11. Cyrchwyd 2009-08-08.
  9. ""Leeds - Louisville partnership"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-11. Cyrchwyd 2009-08-08.
  10. "Leeds - Siegen partnership"


Eginyn erthygl sydd uchod am Gorllewin Swydd Efrog. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.