Llowes

Llowes
Mathpentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth110 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0668°N 3.1797°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO191416 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DUDavid Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol)
Map

Pentref bychan a phlwyf eglwysig yng nghymuned Y Clas-ar-Wy, Powys, Cymru, yw Llowes.[1][2] Mae'n gorwedd yn ardal Maesyfed, tua 3 milltir (5 km) i'r de-ddwyrain o bentref Y Clas-ar-Wy, ger y ffin â Lloegr. Roedd 110 o bobl yn byw ynddo yn 2005.

Cefn gwlad Powys ger Llowes

Eglwys Meilig Sant a Chroes Meilig

Mae eglwys y plwyf wedi'i chysegru i Meilig Sant, y dywedir iddo sefydlu mynachlog yn y 6ed ganrif yng Nghroes Feilig ger y pentref, lle y cafodd ei gladdu. Dichon fod Meilig yn un o feibion Caw ac yn frawd i Gildas. Cyfeirir ato yn Culhwch ac Olwen fel un o'r marchogion yn llys Brenin Arthur.[3]

Ailadeiladwyd yr eglwys yn llwyr ym 1853, er y gall fod gwaelod y tŵr yn ganoloesol a chredir bod y bedyddfaen â band haearn amdano yn dyddio o'r 12fed ganrif.

Symudwyd Croes Meilig, y dywed traddodiad iddi sefyll gynt ar ei safle eponymaidd Croes Feilig, i'r eglwys ei hun yn 1956 i atal erydiad pellach. Oddeutu 1699 safai yn y fynwent pan y'i gwelwyd hi gan Edward Lhuyd. Credir bod y groes, sydd wedi'i cherfio ar faen hir, yn dyddio i oddeutu'r 11eg ganrif. Roedd chwedl leol yn cyfeirio at y groes fel 'Moll Walbec's Stone', gan honni iddi gael ei thaflu yno gan 'Moll Walbec' neu Maud de St. Valery, gwraig hynod gadarn ac anorchfygol William de Braose (1144/1153–1211), arglwydd y Gelli Gandryll. Wrth gario cerrig yn ei ffedog o'r chwarel yn Y Clas ar Wy i ailadeiladu'r castell, syrthiodd un i'w hesgid. Tynnodd Maud hi allan a'i thaflu'n ddig dros Afon Gwy i lanio ym mynwent eglwys Llowes.[4]

Croes Meilig

Yr arysgrif Gymraeg i William Bevan

Ym mynwent yr eglwys mae'r hyn a alwyd gan Ffransis Payne yn 'un o bethau prinnaf sir Faesyfed sef carreg fedd ac arni arysgrif yn Gymraeg'. Dyma'r geiriau sydd ar y garreg hon: 'William Bevan or Vedowlwyd Dan y garreg sydd Imma yn gorphywys ay oydran oydd 84 mhylnedd ac ymadevis ar y byd hwn y 17 Dydd o Ebrill yn y flwyddyn 1684 Miserere Mei Deus'.[5]

Cyfeiriadau

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 6 Ionawr 2022
  3. Bartrum, Peter C. (2009). A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend upto about A.D. 1000 (PDF). Aberystwyth: National Library of Wales. t. 529.
  4. Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. "Moll Walbec Stone, St Meilig's Church, Llowes". Coflein. Cyrchwyd 30 Mai 2023.
  5. Payne, F. G. (1966). Crwydro Sir Faesyfed. I. Llandybie: Llyfrau'r Dryw. t. 96.
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.