Manafon

Manafon
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth321, 336, 301 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.612044°N 3.310561°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000328 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y SeneddGwynedd Maldwyn
Etholaeth y DUCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ym Mhowys, Cymru, yw Manafon.[1] Fe'i lleolir yng ngogledd y sir yn ardal Maldwyn, 2 filltir a hanner i'r de o bentref Llanfair Caereinion ac 8 milltir i'r gorllewin o'r Trallwng ar lôn y B4390.

Saif Manafon ar ddwy lan Afon Rhiw mewn ardal o fryniau isel coediog a ffermydd ar wasgar. Mae'r plwyf yn rhan o Esgobaeth Llanelwy. Mae eglwys y plwyf, a gysegrwyd i Sant Mihangel, yn bur hynafol.

Eglwys Mihangel Sant, Manafon

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Manafon (pob oed) (301)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Manafon) (54)
  
18.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Manafon) (127)
  
42.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Manafon) (35)
  
26.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cysylltiadau llenyddol

Bu'r bardd a golygydd Gwallter Mechain (Walter Davies) yn ficer Manafon am gyfnod o 30 mlynedd, o 1807 hyd 1837, a chynhyrchodd ran helaeth o'i waith llenyddol yno. Bu Evan Evans (Ieuan Fardd) yn gurad yno am gyfnod ganol y 18g.

Treuliodd y bardd R. S. Thomas gyfnod o ddeuddeg mlynedd yn rheithor Manafon (1942-1954). Cafodd yr ardal ddylanwad dwfn arno. Yno yr aeth ati i ddysgu'r Gymraeg ac mae rhai o'i gerddi mwyaf adnabyddus, sy'n ymwneud â chymdeithas amaethyddol y fro, natur, a hanes Cymru yn deillio o'r amser hwnnw. Ceir pennod am ei brofiadau yn y fro yn ei hunangofiant Neb. Dyma un o'i ddisgrifiadau o Fanafon o'r gyfrol honno, a ysgrifennir yn y trydydd berson:

"O'r braidd fod Manafon yn bod. Doedd yno ddim pentref, dim ond eglwys, ysgol, tafarn a siop. Gwasgarwyd y ffermydd hyd y llethrau yn fân-ddaliadau ar y cyfan gydag ambell fferm mwy sylweddol. Saes-Gymry oedd y bobl, gydag enwau Cymraeg ac acen Sir Amwythig. Daethant yn destun ei farddoniaeth."[5]

Defnyddiodd y cerddor David Sylvian brofiadau R. S. Thomas ym Manafon yn sail i'w albwm Manafon (2009).

Enwogion

David Lloyd (1656 - 1731) cyfreithiwr a gwleidydd Cymreig ym Mhennsylvania

Cyfeiriadau

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. R. S. Thomas, Neb (Gwasg Gwynedd), tud. 42.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.