Oujda
| Math | dinas, cymuned drefol Moroco, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 506,224 |
| Pennaeth llywodraeth | Mohamed Azawi |
| Gefeilldref/i | |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 96.4 km² |
| Uwch y môr | 470 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 34.6867°N 1.9114°W |
| Cod post | 60000 |
| MA-OUJ | |
| Pennaeth y Llywodraeth | Mohamed Azawi |
![]() | |
Dinas yng ngogledd-ddwyrain Moroco yw Oujda (Arabeg: وجدة). Lleolir y ddinas tua 15 km i'r gorllewin o'r ffin rhwng Moroco ac Algeria a rhyw 60 km i'r de o lan Môr y Canoldir. Poblogaeth: tua 500,000. Mae'n brifddinas rhanbarth L'Oriental.
Mae'n ddinas ddiwydiannol sy'n gartref i Brifysgol Mohammed I. Fe'i gwasanaethir gan Faes Awyr Angads. Mae rheilffordd yn cysylltu Oujda â Fes a Casablanca i'r gorllewin; roedd hyn yn rhan o lein ar draws y Maghreb yn cysylltu Moroco, Algeria a Tiwnisia, ond oherwydd yr anghydfod a helyntion yn Algeria does dim gwasanaeth ar draws y ffin heddiw.
Ceir peth dystiolaeth o bresenoldeb y Rhufeiniaid yma pan fu'n rhan o dalaith Mauretania Tingitana. Sefydlwyd y ddinas bresennol yn 994 gan Ziri ibn Atiyya, brenin y Zenata Berber. Ailadeiladwyd y ddinas yn y 13g gan y swltan Abou Youssef. Cafodd ei meddiannu gan Ffrainc yn 1844 ac eto yn 1859. Dan reolaeth Ffrainc, cafodd Oujda ei defnyddio gan y Ffrancod fel gwersyll filwrol i reoli dwyrain Moroco.
Ganed Abdelaziz Bouteflika, arlywydd Algeria, yn Oujda.
Gefeilldref
Dolenni allanol
- (Saesneg) Oujda ar-lein Archifwyd 2015-04-05 yn y Peiriant Wayback
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.
