Protist
| Enghraifft o: | obsolete taxon, gradd, grŵp paraffyletig |
|---|---|
| Math | organeb byw |
| Safle tacson | teyrnas |
| Rhiant dacson | Ewcaryot |
| Dechrau/Sefydlu | Mileniwm 2101. CC |
| Dynodwyr | |
| Protistiaid | |
|---|---|
| Paramecium | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Parth: | Eukarya |
| Teyrnas: | Protista Haeckel, 1866 |
| Ffyla | |
|
llawer, mae dosbarthiad y protistiaid yn amrywio | |
Grŵp amrywiol o organebau ungell ac weithiau cytrefol yw'r protistiaid. Maent yn cynnwys yr ewcaryotau i gyd nad ydynt yn aelodau o'r grŵp planhigion, anifeiliaid neu ffyngau, e.e. protisoaid, rhai algâu a llwydni llysnafeddog. Er ei bod yn debygol eu bod yn rhannu hynafiad cyffredin, dydy'r grwpiau o brotistiaid ddim yn perthyn yn agos i'w gilydd ac fe'u rhennir yn aml yn nifer o deyrnasoedd gwahanol; nid ydyn nhw'n ffurfio grŵp naturiol, neu gytras. Mae'r mwyafrif o brotistiaid yn ungellog. Felly, gall rhai protistiaid fod yn perthyn yn agosach at anifeiliaid, planhigion, neu ffyngau nag y maent i brotistiaid eraill. Fodd bynnag, fel y grwpiau algâu, infertebratau, a phrotosoaid, defnyddir y categori protist biolegol er hwylustod. Mae eraill yn dosbarthu unrhyw ficro-organeb ewcaryotig ungellog fel protist.[1] Protistoleg yw'r enw ar yr astudiaeth o brotistiaid.[2]
Grwpiau pwysig
- Amoebozoa - e.e. Amoeba
- Mycetozoa (Myxomycota) - ffyngau llysnafedd
- Apicomplexa - e.e. Plasmodium
- Bacillariophyta - diatomau
- Chlorophyta - algâu gwyrdd
- Choanozoa
- Chrysophyta - algâu euraid
- Ciliophora - e.e. Paramecium
- Dinoflagellata
- Euglenozoa - ewglenoidau
- Foraminifera
- Oomycota
- Phaeophyta - algâu brown
- Rhodophyta - algâu coch
Hanes
Cynigiwyd dosbarthu trydedd deyrnas ar wahân i anifeiliaid a phlanhigion yn gyntaf gan John Hogg yn 1860 fel y deyrnas Protoctista; yn 1866 cynigiodd Ernst Haeckel hefyd drydedd deyrnas Protista fel "teyrnas ffurfiau cyntefig".[3] Yn wreiddiol roedd y rhain hefyd yn cynnwys procaryotau, ond gydag amser symudwyd y rhain i bedwaredd deyrnas Monera.
Yn y cynllun pum teyrnas poblogaidd a gynigiwyd gan Robert Whittaker ym 1969, diffiniwyd Protista fel "organebau ewcaryotig sy'n ungellog neu'n ungellog-trefedigaethol ac nad ydynt yn ffurfio unrhyw feinweoedd", a sefydlwyd y bumed deyrnas o Ffyngau.[4][5][6]}} Yn system pum teyrnas Lynn Margulis, cedwir y term protist ar gyfer organebau microsgopig, tra bod y deyrnas fwy cynhwysol Protoctista (neu brotoctyddion) yn cynnwys rhai ewcaryotau amlgellog mawr, megis gwymon, algâu coch, a llwydni llysnafedd.[7] Mae rhai yn defnyddio'r term protist yn gyfnewidiol â phrotoctydd Margulis, i gwmpasu ewcaryotau ungellog ac amlgellog, gan gynnwys y rhai sy'n ffurfio meinweoedd arbenigol ond nad ydynt yn ffitio i mewn i unrhyw un o'r teyrnasoedd traddodiadol eraill.[8]
Disgrifiad
Heblaw am eu lefelau trefnu cymharol syml, nid oes gan brotistiaid lawer yn gyffredin rhyngddynt.[9] Pan gaiff ei ddefnyddio, ystyrir bellach bod y term "protistiaid" yn golygu casgliad paraffyletig o dacsa (grwpiau biolegol) tebyg ond amrywiol; nid oes gan y tacsa hyn hynafiad cyffredin unigryw ar wahân i'r ffaith fod ganddyn nhw ewcaryotau, ac mae ganddynt gylchredau bywyd gwahanol, lefelau troffig, dulliau symud, a strwythurau cellog gwahanol.[10][11]
Mewn systemau cladistaidd (dosbarthiadau sy'n seiliedig ar hynafiaeth gyffredin), nid oes unrhyw betha sy'n gyfwerth â'r tacsa Protista neu Protoctista, gan fod y ddau derm yn cyfeirio at grŵp paraffyletig sy'n rhychwantu cangen ewcaryotig gyfan coeden bywyd. Mewn dosbarthiad cladistaidd, mae cynnwys Protista wedi'i ddosbarthu'n bennaf ymhlith gwahanol grwpiau uwch.
Ystyrir felly fod y termau "Protista", "Protoctista", a "Protozoa" wedi darfod. Fodd bynnag, mae'r term "protist" yn parhau i gael ei ddefnyddio'n anffurfiol fel term cyffredinol am organebau ewcaryotig nad ydynt o fewn teyrnasoedd traddodiadol eraill. Er enghraifft, gellir defnyddio'r gair " pathogen protist" i ddynodi unrhyw organeb sy'n achosi afiechyd nad yw'n blanhigyn, anifail, ffwngaidd, procaryotig, firaol neu isfeirysol.[12]
Israniadau
Mae'r israniadau traddodiadol bellach wedi'u disodli gan ddosbarthiadau sy'n seiliedig ar ffylogeneteg (perthynas esblygiadol rhwng yr organebau). Defnyddiwyd dadansoddiadau moleciwlaidd mewn tacsonomeg fodern i ailddosbarthu cyn-aelodau o'r grŵp hwn yn ffyla amrywiol sydd weithiau'n gysylltiedig â ffyllwm. Er enghraifft, ystyrir bellach bod y llwydni dŵr yn perthyn yn agos i organebau ffotosynthetig fel algâu brown a diatomau; mae'r mowldiau llysnafeddog wedi'u grwpio'n bennaf o dan Amoebozoa.
Fodd bynnag, mae'r termau hŷn yn dal i gael eu defnyddio fel enwau anffurfiol i ddisgrifio morffoleg ac ecoleg gwahanol brotistiaid. Er enghraifft, defnyddir y term protosoa i gyfeirio at rywogaethau heterotroffig o brotistiaid nad ydynt yn ffurfio ffilamentau.
Dosbarthiadau modern

Nid yw systematwyr heddiw yn trin Protista fel tacson ffurfiol, ond mae'r term "protist" yn dal i gael ei ddefnyddio'n gyffredin er hwylustod mewn dwy ffordd.[13] Y diffiniad cyfoes mwyaf poblogaidd yw un ffylogenetig, sy'n dynodi grŵp paraffyletig:[14] protist yw unrhyw ewcaryot nad yw'n anifail, planhigyn, nac yn ffwng; mae'r diffiniad hwn [15] yn eithrio llawer o grwpiau ungellog, fel y Microsporidia (ffyngau), llawer o Chytridiomycetes (ffyngau), a burumau (ffyngau), a hefyd grŵp an-ungellog a gynhwyswyd o fewn y Protista yn y gorffennol, y Myxozoa (anifail).[16] Mae systematwyr eraill yn barnu bod tacsa paraffyletig yn dderbyniol, ac maen nhw'n defnyddio Protista yn yr ystyr hwn fel tacson ffurfiol (fel a geir mewn rhai gwerslyfrau uwchradd, at ddiben pedagogaidd).
Mae tacsonomeg protistiaid yn dal i newid. Mae dosbarthiadau mwy newydd yn ceisio cyflwyno grwpiau monoffyletig yn seiliedig ar wybodaeth morffolegol (yn enwedig uwchstrwythurol) [17][18][19] biocemegol (chemotaxonomy)[20][21] a dilyniant DNA (ymchwil moleciwlaidd).[22][23] Fodd bynnag, weithiau mae anghysondebau rhwng ymchwiliadau moleciwlaidd a morffolegol; gellir categoreiddio'r rhain yn ddau fath: (i) un morffoleg, llinachau lluosog (ee cydgyfeiriant morffolegol, rhywogaethau cryptig) a (ii) un llinach, morffolegau lluosog (ee plastigrwydd ffenoteipig, cyfnodau cylch bywyd lluosog).[24]
Cyfeiriadau
- ↑ Madigan, Michael T. (2019). Brock biology of microorganisms (arg. Fifteenth, Global). NY, NY. t. 594. ISBN 9781292235103.
- ↑ Taylor, F.J.R.M. (2003-11-01). "The collapse of the two-kingdom system, the rise of protistology and the founding of the International Society for Evolutionary Protistology (ISEP)". International Journal of Systematic and Evolutionary Microbiology (Microbiology Society) 53 (6): 1707–1714. doi:10.1099/ijs.0.02587-0. ISSN 1466-5026. PMID 14657097.
- ↑ "Not plants or animals: A brief history of the origin of Kingdoms Protozoa, Protista, and Protoctista". International Microbiology 2 (4): 207–221. 1999. PMID 10943416. http://www.blc.arizona.edu/courses/schaffer/182h/EukaryoteOrigins/NotPlantsNotAnimals-Scamardella.pdf. Adalwyd 2023-03-21.
- ↑ "New concepts of kingdoms or organisms. Evolutionary relations are better represented by new classifications than by the traditional two kingdoms". Science 163 (3863): 150–160. January 1969. Bibcode 1969Sci...163..150W. doi:10.1126/science.163.3863.150. PMID 5762760. https://archive.org/details/sim_science_1969-01-10_163_3863/page/150.
- ↑ "whittaker new concepts of kingdoms – Google Scholar". scholar.google.ca. Cyrchwyd 2016-02-28.
- ↑ Hagen, Joel B. (2012). "depiction of Whittaker's early four-kingdom system, based on three modes of nutrition and the distinction between unicellular and multicellular body plans". BioScience 62: 67–74. doi:10.1525/bio.2012.62.1.11. https://archive.org/details/sim_bioscience_2012-01_62_1/page/n67.
- ↑ Margulis, Lynn; Chapman, Michael J. (2009-03-19). Kingdoms and Domains: An Illustrated Guide to the Phyla of Life on Earth. Academic Press. ISBN 9780080920146.
- ↑ Archibald, John M.; Simpson, Alastair G. B.; Slamovits, Claudio H., gol. (2017). Handbook of the Protists (yn Saesneg) (arg. 2). Springer International Publishing. tt. ix. ISBN 978-3-319-28147-6.
- ↑ "Systematics of the Eukaryota". Cyrchwyd 2009-05-31.
- ↑ "Protists push animals aside in rule revamp". Nature 438 (7064): 8–9. November 2005. Bibcode 2005Natur.438....8S. doi:10.1038/438008b. PMID 16267517. https://archive.org/details/sim_nature-uk_2005-11-03_438_7064/page/8.
- ↑ Harper, David; Benton, Michael (2009). Introduction to Paleobiology and the Fossil Record. Wiley-Blackwell. t. 207. ISBN 978-1-4051-4157-4.
- ↑ "Isolation of Balamuthia mandrillaris-specific antibody fragments from a bacteriophage antibody display library". Experimental Parasitology 166: 94–96. July 2016. doi:10.1016/j.exppara.2016.04.001. PMID 27055361.
- ↑ "The other eukaryotes in light of evolutionary protistology". Biology & Philosophy 28 (2): 299–330. 2012. doi:10.1007/s10539-012-9354-y.
- ↑ Schlegel, M.; Hulsmann, N. (2007). "Protists – A textbook example for a paraphyletic taxon☆". Organisms Diversity & Evolution 7 (2): 166–172. doi:10.1016/j.ode.2006.11.001.
- ↑ "Protista". microbeworld.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mehefin 2016. Cyrchwyd 11 Mehefin 2016.
- ↑ "Actinomyxidies, nouveau groupe de Mesozoaires parent des Myxosporidies". Bull. Int. l'Acad. Sci. Bohème 12: 1–12. 1899.
- ↑ Pitelka, D. R. (1963).
- ↑ Berner, T. (1993).
- ↑ Beckett, A., Heath, I. B., and Mclaughlin, D. J. (1974).
- ↑ Ragan M.A. & Chapman D.J. (1978).
- ↑ Lewin R. A. (1974).
- ↑ Oren, A., & Papke, R. T. (2010).
- ↑ Horner, D. S., & Hirt, R. P. (2004).
- ↑ "How discordant morphological and molecular evolution among microorganisms can revise our notions of biodiversity on Earth". BioEssays 36 (10): 950–959. October 2014. doi:10.1002/bies.201400056. PMC 4288574. PMID 25156897. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4288574.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.