Strabo

Strabo
Ganwydc. 63 CC Edit this on Wikidata
Amasia Edit this on Wikidata
Bu farwc. 23 Edit this on Wikidata
Amasia Edit this on Wikidata
Galwedigaethdaearyddwr, hanesydd, athronydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amGeographica Edit this on Wikidata

Daearyddwr Groegaidd oedd Strabo (c. 64 CC - c. 19 OC). Roedd yn enedigol o Amaseia, Pontus, yn Asia Leiaf, a flodeuai yn amser yr ymerawdwyr Cesar Awgwstws a Tiberiws

Ganwyd Strabo yn fab i rieni gweddol dda eu byd yn Amaseia, yn Pontus, hen dalaith Roeg yn Asia Leiaf a oedd erbyn hynny'n rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig. Astudiodd yn gyntaf dan diwtoriaeth yr athronydd crwydr (peripatetig) Xenarchus (fl. diwedd y 1af ganrif CC). Fel ei athro roedd yn arddel Stoïciaeth, athroniaeth y Stoïciaid. Ar ôl gorffen ei addysg ymroddodd i astudiaethau hanes a daearyddiaeth. Teithiodd yn eang gan ymweld â rhan helaeth o Asia Leiaf, yr Aifft hyd at gyffiniau Ethiopia, sawl ardal yng Ngwlad Groeg, a hefyd yr Eidal, gan gynnwys y brifddinas Rhufain. Gyda'i raglaenydd Ptolemi mae Strabo yn cael ei ystyried yn dad Daearyddiaeth. Ysgrifennodd sawl llyfr, gan gynnwys llyfr hanes pwysig mewn 47 llyfr, a oedd yn parhad o waith Polybius o'r 5ed llyfr ymlaen; darnau a dyfyniadau yn unig sydd wedi goroesi. Dim ond ei Γεωγραφικά (Geographica, "Daearyddiaeth") sydd wedi goroesi'n destun gweddol gyflawn. Yn ffodus y llyfr hwnnw yw ei gampwaith.

Ffynonellau

  • F.W. Hall, A Companion to Classical Texts (Rhydychen, 1913)
  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities, gyda ychwanegiadau gan H. Nettleship a J.E. Sandys (Llundain, 1902)

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.