Tom Price
| Tom Price | |
|---|---|
| Ganwyd | 12 Gorffennaf 1980 y Deyrnas Unedig |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor, actor teledu |
| Gwefan | http://www.pricetom.com |
- Erthygl am y digrifwr yw hon. Am erthygl ar y gyrrwr Fformiwla 1, ewch i Tom Pryce.
Actor a digrifwr o Gymru yw Tom Price (ganwyd 12 Gorffennaf 1980) sy'n hanu o Drefynwy.[1] Mae'n briod a'r cynhyrchydd teledu Beth Morrey, sydd yn fwyaf enwog am greu fformat y sioe gwis Wogan's Perfect Recall ar gyfer Channel 4.
Gyrfa
Actio
Ymddangosiad cyntaf Pris ar deledu oedd mewn pennod o Absolute Power yn chwarae gweinydd. Mae'n adnabyddus i gynulleidfaoedd teledu am fod yn un o sêr y sioe gomedi sgets Swinging ar Five. Roedd ganddo rôl rheolaidd fel yr heddwad Andy Davidson mewn nifer o benodau o Torchwood, chwaer rhaglen i'r gyfres ffuglen wyddonol Doctor Who. Yn 2008 ymddangosodd yn y sioe sgets The Wrong Door ar BBC Three a ffilmiodd rhan Darrin Stephens mewn peilot o ail-gread Prydeinig o Bewitched, na chafodd ei ddarlledu. Mae ymddangosiadau arall ar deledu yn cynnwys Doctors (2009) a Secret Diary of a Call Girl (2010). Roedd gan Tom ran hefyd yn rhaglen Renault TV, The Key. Yn 2011 ail-gydiodd yn rhan Andy Davidson yn Torchwood: Miracle Day, a ddarlledwyd ar BBC One a rhwydwaith Starz yn yr Unol Daleithiau.[2]
Yn ychwanegol i'w berfformiadau teledu mae Price wedi ymddangos yn y ffilmiau The Boat that Rocked a Hereafter.[3]
Yn 2011 ymddangosodd mewn cyfres gomedi realaeth 8-rhan o'r enw World Series of Dating ar BBC3 [4] gyda Rob Riggle. Yn fwyaf diweddar roedd yn actor rheolaidd ochr yn ochr â Ruth Jones yn Stella ac ymddangosodd yn y gyfres ddiweddar o Count Arthur Strong a Episodes.
Comedi
Mae Price yn perfformio yn aml fel digrifwr stand-yp ar draws gwledydd Prydain ac yn rhyngwladol.
Cymerodd ei sioe stand-up cyntaf, Say When, i Ŵyl Caeredin yn 2011,[5] a disgrifiodd un adolygydd ei arddull gomedi fel "easygoing, good-natured autobiographical".[6]
Dychwelodd i Edinburgh yn 2014, gyda'i sioe "Not as nice as He Looks",[7] a gafodd ei ddisgrifio gan un adolygwr fel "chwa o awyr iach, arloesol a ddychrynllyd o ddigrif"[8]
Yn Hydref 2014, cefnogodd Tom Stephen Merchant ar ei Daith Ewropeaidd.
Radio
Ymddangosodd Price fel Gordon, meddyg meddw ifanc, yn y sioe gomedi BBC Radio 4 Rigor Mortis am dair cyfres, ochr yn ochr â Peter Davison, Geoffrey Whitehead, Matilda Ziegler ac, yn y gyfres gyntaf, Tracy-Ann Oberman. Mae ei gredydau radio hefyd yn cynnwys y ddrama radio Torchwood, Asylum, unwaith eto yn ei rôl fel yr heddwas Andy.
Mae'n cyflwyno y sioe gomedi newyddion The Leak with Tom Price ar BBC Radio Wales a ddechreuodd ym mis Medi 2014 a bydd yn rhedeg drwy gydol 2015. Cyn hynny, roedd yn gyflwynwyr rheolaidd o'r sioe gomedi materion cyfoes ar y What's the Stori? ar BBC Radio Wales.[9]
Arall
Roedd Price yn un o gyflwynwyr Destination Three ar BBC3 a cyflwynodd Senseless ar MTV. Yn 2014 adroddodd y rhaglen ddogfen "Quads" ar ITV1.[10] O ran hysbysebion mae wedi ymddangos yn hysbysebion Velvet Triple Soft and Trident "Mastication for the Nation", a wedi bod yn llais Nescafe. Mae wedi perfformio mewn hysbyseb Virgin Atlantic a wedi ymddangos mewn jingls ar y podlediad comedi Answer Me This!.[11] Mae hefyd wedi chwarae rhan y mwni PG Tips'.[12]
Ffilmyddiaeth
| Blwyddyn |
Teitl | Rhan | Mwy o wybodaeth |
|---|---|---|---|
| 2014 | Episodes | Aaron | Cyfres deledu - IMDb |
| Stella | Andy | Cyfres deledu - Stella ar IMDb | |
| Topsy and Tim | Paul | Cyfres deledu - Topsy and Tim ar IMDb | |
| 2013 | The Search for Simon | Simon (older) | Ffilm - The Search for Simon ar IMDb |
| 2012 | Walk or Fly | Maths Teacher | Cyfres deledu - Walk or Fly ar IMDb |
| World Series of Dating | James Chetwyn-Talbot | Cyfres deledu - World Series of Dating ar IMDb | |
| 2011 | Holy Flying Circus | Tim Rice | Ffilm deledu |
| My Family | Boy | Cyfres deledu "Germs of Endearment" | |
| 2010 | D.O.A. | Luke Chambers | Cyfres deledu D.O.A ar IMDb |
| Hereafter | Man | Hereafter ar IMDb | |
| Secret Diary of a Call Girl | Simon | Pennod #3.3 | |
| 2009 | Doctors | Richie Dunston | Pennod deledu - "Rivals" |
| Hotel Trubble | Prince Wally | Pennod deledu - "Royal Trubble" | |
| The Boat That Rocked | Undisclosed | The Boat That Rocked ar IMDb | |
| 2008 | The Wrong Door | Various | The Wrong Door ar IMDb |
| 2007 | The Scum Also Rises | Billy | Ffilm deledu - The Scum Also Rises ar IMDb |
| Living with Two People You Like Individually... But Not as a Couple | Craig | Cyfres deledu - Living with Two People You Like Individually...But Not as a Couple ar IMDb | |
| Nuclear Secrets | Pragnell, Max | Cyfres deledu fer - Nuclear Secrets ar IMDb | |
| 2006–2011 | Torchwood | Andy Davidson | Rhan rheolaidd |
| 2005 | Swinging | Various | Rhaglen deledu - Swinging ar IMDb |
| Absolute Power | Waiter | Cyfres deledu - Absolute Power ar IMDb |
Cyfeiriadau
- ↑ "Tom Price". The Comedy Club. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-07. Cyrchwyd 7 Ebrill 2012.
- ↑ "Torchwood: Week Three Filming". Doctor Who News. 2011-01-30. Cyrchwyd 2012-09-25.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-28. Cyrchwyd 2016-06-19.
- ↑ "World Series of Dating". BBC. 23 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 5 Awst 2011.
- ↑ Edinburgh Festival 2011 listings
- ↑ Kettle, James (23 Gorffennaf 2011). "This week's new comedy". The Guardian. Cyrchwyd 5 Awst 2011.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-15. Cyrchwyd 2016-06-19.
- ↑ [1]
- ↑ What's the Story? on BBC Radio Wales
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-15. Cyrchwyd 2016-06-19.
- ↑ "ANSWER ME THIS! Best Internet Programme 2011 - Sony Radio Academy Awards (Gold)". Answermethispodcast.com. Cyrchwyd 2012-09-25.
- ↑ [2]
Dolenni allanol
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.