Valens

Valens
Ganwyd328 Edit this on Wikidata
Vinkovci Edit this on Wikidata
Bu farw9 Awst 378 Edit this on Wikidata
o Brwydr Adrianople Edit this on Wikidata
Edirne Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, swyddog milwrol Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Ymerawdwr Bysantaidd, Count of the Stable, pontifex maximus, imperator, tribune of the plebs, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadGratian Edit this on Wikidata
PriodDominica Edit this on Wikidata
PlantValentinianus Galates, Anastasia Edit this on Wikidata
LlinachValentinianic dynasty Edit this on Wikidata

Ymerawdwr Rhufeinig oedd Flavius Iulius Valens (Lladin: IMPERATOR CAESAR FLAVIVS IVLIVS VALENS AVGVSTVS; 3289 Awst 378).[1]

Ganed ef yn Cibalae (Vinkovci yn Serbia heddiw) yn fab i Gratian yr Hynaf. Credir iddo ymuno a'r fyddin yn y 360au, gan gymeryd rhan gyda'i frawd Flavius Valentinianus yn ymgyrch yr ymerawdwr Julian yn erbyn y Persiaid.

Pan lofruddwiyd yr ymerawdwr Jovianus, cyhoeddwyd Valentinianus yn Augustus ar 26 Chwefror 364. Cyhoeddodd yntau ei frawd Valens yn gyd-ymerawdwr ar 28 Mawrth. Rhoddwyd rhan ddwyreiniol yr ymerodraeth iddo i'w llywodraethu. Bu raid iddo ddelio ag ymgais gan berthynas i'r ymerawdwr Julian, Procopius, i hawlio'r orsedd, a dim ond yn 366 y gallodd Valens ei orchfygu a'i ddienyddio.

Bu Valens yn ymladd yn erbyn y Gothiaid ac yn erbyn y Persiaid. Roedd yn cynllunio ymgyrch yn y dwyrain pan symudodd nifer fawr o Fisigothiaid i mewn i'r ymerodraeth yn Moesia a of Dacia oherwydd fod yr Hyniaid yn ymosod arnynt. Ar y cyntaf fe'u derbyniwyd yn heddychlon, ond yn fuan dechreuodd ymladd. Enillodd y Gothiaid nifer o frwydrau lleol, ac yn 378 daeth Valens ei hun i'w gwrthwynebu. Roedd ei nai, Gratian, oedd wedi olynu Valentinianus, ar y ffordd gyda byddin i gynorthwyo, ond mynnodd Valens ymladd cyn iddo gyrraedd. Ym Mrwydr Adrianople ar 9 Awst 378, gorchfygwyd ef gan y Gothiaid a'u cyngheiriaid a'i ladd. Olynwyd ef gan Theodosius I.

Gwnanychwyd yr ymerodareth Rufeinig yn fawr gan ei cholledion ym Mrwydr Adrianople. Canlyniad arall y frwydr a marwolaeth Valens oedd gwanhau Ariadaeth yn yr ymerodraeth; roedd Valens yn Ariad ond roedd ei olynwyr yn dilyn Credo Nicea.

Cyfeiriadau

  1. Heather, Peter (2007). The Fall of the Roman Empire: A New History of Rome and the Barbarians (yn Saesneg). Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen. t. 181. ISBN 978-0-19-532541-6.
Rhagflaenydd:
Jovian
Ymerawdwr Rhufain
364378
gyda Valentinian I
Olynydd:
Gratianus
a Valentinian II

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.