Florida
| Arwyddair | In God We Trust |
|---|---|
| Math | taleithiau'r Unol Daleithiau |
| Enwyd ar ôl | Pasg |
| Prifddinas | Tallahassee |
| Poblogaeth | 21,538,187 |
| Sefydlwyd | |
| Anthem | Old Folks at Home, Florida, Where the Sawgrass Meets the Sky |
| Pennaeth llywodraeth | Ron DeSantis |
| Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain |
| Gefeilldref/i | Wakayama |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA, South Atlantic states |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 170,304 km² |
| Uwch y môr | 30 metr |
| Gerllaw | Gwlff Mecsico, Cefnfor yr Iwerydd, Florida Strait |
| Yn ffinio gyda | Georgia, Alabama |
| Cyfesurynnau | 28.1°N 81.6°W |
| US-FL | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | State of Florida |
| Corff deddfwriaethol | Florida Legislature |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Florida |
| Pennaeth y Llywodraeth | Ron DeSantis |
![]() | |
Un o daleithiau dwyreiniol Unol Daleithiau America yw Talaith Florida neu Florida, neu weithiau'n Gymraeg: Fflorida,[1] gorynys fawr rhwng Cefnfor Iwerydd a Gwlff Mecsico. Fe enwodd Juan Ponce de León y dalaith yn 1513. Ym 1763 bu Prydain yn ffeirio Cuba am Florida wedi i'r Prydeinwyr feddiannu dinas La Habana/Hafana. Symudwyd y boblogaeth Sbaenaidd i Giwba wedyn. Yn 2010 roedd y boblogaeth yn 18,801,310.[2]
Mae gan y dalaith arwynebedd o 65,755 milltir sgwâr (170,305 km2), a dyma yw'r 22 dalaith fwyaf o ran maint o holl daleithiau'r Unol Daleithiau. Mae gan Florida yr arfordir cydgyffyrddol hiraf yn yr Unol Daleithiau, yn gorchuddio tua 1,350 o filltiroedd (2,170 km). Ceir pedair ardal ddinesig fawr, nifer o ddinasoedd diwydiannol llai o ran maint, a nifer o drefi bychain yno.
Florida oedd 27ain talaith i ymuno â’r Unol Daleithiau ym 1845. Prifddinas y dalaith yw Tallahassee.

O’r 19g ymlaen daeth pobl o daleithiau eraill, denwyd gan dywydd cynhesach Florida. Erbyn y 20g roedd twristiaeth wedi dod yn bwysig i Florida. Agorwyd Disney World ym 1971. Mae'n 30,500 o aceri o faint, ac mae'n denu tua 46 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.[3]
Mae Canolfan Ofod Kennedy wedi bod yn allweddol i’r hyn mae'r Unol Daleithiau wedi'i gyflawni yn y maes gofod ac mae hefyd yn denu twristiaid.
Mae gan Florida gorsydd mawr. Yr un mwyaf yw Cors Everglades. Rhennir un arall, Cors Okefenokee, efo Georgia.
Dinasoedd Florida
| 1 | Jacksonville | 813,518 |
| 2 | Miami | 399,457 |
| 3 | Tampa | 345,556 |
| 4 | St. Petersburg | 248,098 |
| 5 | Orlando | 235,860 |
| 6 | Tallahassee | 172,574 |
| 7 | Fort Lauderdale | 184,892 |
| 8 | Melbourne | 76,068 |
| 9 | Pensacola | 76,068 |
| 10 | Key West | 25,478 |
| 11 | Lake Wales | 12,071 |
Cyfeiriadau
- ↑ Geiriadur yr Academi, [Florida].
- ↑ "Compendium of the Ninth Census:Population, with race" (PDF). US Census Bureau. t. 14. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 2010-11-20. Cyrchwyd Rhagfyr 3, 2007.
- ↑ Gwefan history.com
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol y dalaith
Oriel
-
Y neuadd arddangos, Canolfan Ofod Kennedy
-
Cors Okefenokee
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.
