Lewis Hamilton
| Lewis Hamilton | |
|---|---|
| Ganwyd | Lewis Carl Davidson Hamilton 7 Ionawr 1985 Stevenage |
| Man preswyl | Fontvieille |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gyrrwr Fformiwla Un, gyrrwr ceir cyflym |
| Swydd | Formula One World Champion |
| Taldra | 174 centimetr |
| Pwysau | 68 cilogram |
| Tad | Anthony Hamilton |
| Partner | Nicole Scherzinger, Kim Kardashian |
| Gwobr/au | MBE, Laureus World Sports Award for Breakthrough of the Year, Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC, Gwobr Chwaraeon y Byd Laureus am Chwaraewr y Flwyddyn, L'Équipe Champion of Champions, Segrave Trophy, Marchog Faglor |
| Gwefan | https://www.lewishamilton.com/ |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | McLaren, Mercedes F1 Team, Scuderia Ferrari |
| llofnod | |
Gyrrwr rasio Fformiwla Un o Loegr yw Lewis Carl Davidson Hamilton (ganed 7 Ionawr 1985 yn Stevenage). Ar hyn o bryd mae'n gyrru i dîm Mercedes. Mae o’n pencampwr saith amser o Fformiwla Un, y cydradd uchaf erioed gyda Michael Schumacher. Cafodd ei enwi ar ôl y rhedwr Carl Lewis.
Dechreuodd ei yrfa rasio pan oedd yn ddim ond wyth oed. Pan oedd yn ddeg fe enillodd bencampwriaeth Cartio Gwledydd Prydain. Gwnaeth hyn eto bedair gwaith yn ystod y blynyddoedd dilynol. Yn 13 fe arwyddodd gyda rhaglen gefnogi gyrwyr ifanc tîm rasio McLaren.
Collodd allan ar y Bencampwriaeth Fformiwla Un yn 2007 o un pwynt i Kimi Räikkönen. Torrodd y record am y gyrrwr ieuengaf i ennill ras (a gafodd ei torri yn hwyrach gan Sebastian Vettel yn 2008). Gosododd record ar gyfer y nifer o "podiums" yn olynol yn y chwaraeon. Yn Nhachwedd 2008, enillodd y bencampwriaeth Fformiwla Un, gydag un pwynt o flaen Felipe Massa. Dioddefodd Hamitlon o gar andros o wael am ran fwyaf o'r tymor 2009, felly collodd ei bencampwriaeth i Jenson Button o Brawn GP. Ar ôl dri thymor aflwyddiannus arall gyda McLaren, symudodd i dîm Mercedes, a enillodd y bencampwriaeth yn y tymhorau 2014 a 2015. Yn y tymor 2016 gorffennodd yn ail yn y bencampwriaeth i'w bartner Nico Rosberg.
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.