Shïa
|
Rhan o gyfres ar |
|---|
| Arferion |
|
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
| Sunni · Shi'a |
|
Astudiaethau Islamig · Celf |
|
Islam a chrefyddau eraill |
| Cristnogaeth · Iddewiaeth |
Mae'r Shïa (Arabeg: شيعة , yn golygu "Plaid" ) yn enwad yng nghrefydd Islam, yr ail-fwyaf ar ôl y Swnni. Mae dilynwyr y Shïa, y Shïaid, yn ystyried Alī ibn Abī Tālib, cefnder a mab-yng-nghyfraith y Proffwyd Muhammad fel ei olynydd (Califf) ac fel yr Imam cyntaf. Yn ôl eu cred hwy, dim ond disgynyddion Ali all fod yn olynwyr y Proffwyd. Datblygodd rhai gwahaniaethau diwinyddol hefyd, ac mae cyfraith y Shïa ychydig yn wahanol i gyfraith y Swnni.
Credir fod y Shïaid tua 15% o ddilynwyr Islam heddiw. Mae nifer o wahanol fathau o Shïa; y mwyaf yw'r Imamyddion neu'r "Deuddegwyr", sy'n credu fod deuddeg Imam wedi bod. Maent yn byw yn Iran (90% o'r boblogaeth gyfan), Aserbaijan (85%), Irac (60%), Bahrain (70%), Libanus (40%), Coweit (30%), Pacistan (20%), Affganistan (20%), Sawdi Arabia (5-20%), Syria (10%) ac India (1-2%).
Yr ail fath o Shïaid yw'r Ismailiaid, sy'n credu mewn saith Imam ac yn byw yn Pacistan, India, Syria ac Affganistan. Trydydd math yw'r Zaiditiaid, sy'n derbyn pump Imam, ac yn byw yng ngogledd Yemen yn bennaf. Mae'r Alefitiaid yn byw yn Nhwrci a'r gwledydd cyfagos.
Dechreuodd y Shïa ynghanol y dadleuon wedi marwolaeth Muhammad yn 632 ynglŷn â phwy ddylai ei olynu. Daeth Abū Bakr yn olynydd iddo, a dim ond yn ddiweddarach y cafodd Ali ei enwi fel y pedwerydd califf. Nid oedd pawb am ei dderbyn, ac yn 661 lladdwyd ef. Roedd Ali'n briod a merch y Proffwyd, Fātima. Yn ddiweddarach lladdwyd ail fab Ali a Fatima, trydydd Imam y Shia, Hussain ym mrwydr Kerbala yn 680. Mae'r Shïa'n ystyried Hussein fel merthyr.

Gwyrdd: Gwledydd y Swnni, Coch: Gwledydd Shïa, Glas: Ibaditiaid (Oman)
Content Disclaimer
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.
- The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
- There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
- It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
- Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
- Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.